Neidio i'r prif gynnwy
A toddler playing on an ipad

Mae cefnogaeth ar gael ar draws Cymru er mwyn helpu ti a dy blentyn i ddefnyddio’r Gymraeg.

Mae rhaglen Cymraeg i Blant yn cynnig cefnogaeth ymarferol i ti a dy blentyn ddefnyddio’r Gymraeg. Yn ogystal â chynnig cymorth a chyngor ar addysg / gofal Cymraeg, mae staff Cymraeg i Blant ar draws Cymru yn cynnig grwpiau hwyliog, rhad ac am ddim drwy gyfrwng y Gymraeg, gan gynnwys sesiynau tylino babi, ioga babi a stori a chân.

Does dim angen bod yn siaradwr Cymraeg i gymryd rhan — mae croeso cynnes i bawb, a bydd y sesiynau hefyd yn magu dy hyder i ddefnyddio’r Gymraeg gyda dy blentyn.

Edrycha ar y tudalennau Facebook canlynol am fwy o wybodaeth am beth sydd ar gael yn dy ardal di.