Neidio i'r prif gynnwy
A toddler playfully holding up two oranges to her eyes

Symudodd Oliver i Geredigion o Tameside gyda’i bartner Jen a’u merch Jess.

Stori Jess

“Pan symudon ni i Geredigion, ’doedd yr un ohonon ni’n siarad Cymraeg ond roedd anfon ein merch i’r ysgol leol yn gam naturiol — a Chymraeg yn digwydd bod oedd y brif iaith yno. ’Dyw dysgu dwy iaith erioed wedi drysu Jess. Mae wedi dysgu’n raddol, dan ei phwysau ei hun, gan gopïo plant eraill. Mae bellach yn siarad Cymraeg yn arbennig o dda. Dyw dysgu dwy iaith erioed wedi drysu Jess.”

Mae adroddiadau ysgol Jess wedi bod yn ardderchog ar draws pob pwnc. ’Dyw dysgu Cymraeg o’r newydd ddim wedi rhwystro’i datblygiad mewn unrhyw ffordd ac mae wedi ymgartrefu’n rhwydd yn yr ysgol. Os yw Jess yn mynd yn ei blaen i ddysgu iaith arall, dwi’n siwr y bydd hi’n ei chael hi’n haws gan fod ganddi well ddealltwriaeth o ieithoedd a’u cystrawen.

Ry’ ni wedi symud i wlad wahanol gyda iaith wahanol. Ry’ ni’n dysgu am ddiwylliant Cymru trwy’n plentyn ac mae’r profiad wedi’n helpu ni i deimlo’n rhan o’r gymuned. Mae fy mhartner Jen bellach yn dysgu Cymraeg, nid yn unig fel ei bod hi’n gallu helpu Jess ond hefyd am fod hynny’n bwysig o ran ei gyrfa hi. Mae hi’n gweithio mewn amgylchedd lle mae hi’n cael cyfle i ddefnyddio’r iaith. Ry’ ni’n dau wrth ein bodd yn clywed Jess yn siarad Cymraeg ac yn defnyddio idiomau a thafodiaith yr ardal. Mae’n rhoi pleser mawr i ni ac ry’ ni’n hynod falch ohoni.”

Stori Steve

“Wnes i ddim dechrau dysgu Cymraeg o ddifri tan o’n i’n oedolyn. O feddwl yn ôl, fedra i ddim deall sut ro’n i’n byw fy mywyd heb y Gymraeg gan fod e wedi dod yn rhan mor bwysig o bwy ydw i a beth rwy’n gwneud erbyn hyn. Rydw i a fy ngwraig wedi magu ein plant i deimlo’n gwbl gyfforddus i ddefnyddio’r Gymraeg a Saesneg, er mwyn rhoi profiadau a chyfleoedd iddyn nhw ges i ddim tra ro’n i yn blentyn."

"Wrth i fi sefydlu fy musnes, ro’n i am sicrhau ein bod ni yn cynnig ein gwasanaethau yn gyfan-gwbl ddwyieithog. Mae hynny wedi profi i fod mor werthfawr i ni fel busnes — mae’n rhywbeth sydd yn ein gwahaniaethu ni o rai o’n cystadleuwyr ac yn syml iawn mae’n ddigon posib na fyddai’r cwmni yn dal i fodoli heblaw ein bod ni wedi cynnig gwasanaeth Cymraeg o’r cychwyn cyntaf. Dydw i ddim yn gor-ddweud wrth nodi bod y Gymraeg wedi newid fy mywyd i.”