Enwau Cymraeg i Blant
Wyt ti'n chwilio am enw Cymraeg arbennig i dy fabi? Dyma rai o'r enwau mwyaf poblogaidd yng Nghymru
Enwau Poblogaidd i Ferched
Alys
Daw Alys o'r enw Alice, sy'n enw Saesneg ond o'r iaith Almaeneg yn wreiddiol.
Angharad
'Un a gerir lawer iawn' yw ystyr yr enw Angharad. Angharad oedd enw mam Gerallt Gymro, un o'r llenorion Lladin enwocaf o Gymru yn y ddeuddegfed ganrif, ac Angharad hefyd oedd enw gwraig Gruffudd ap Cynan, brenin Gwynedd yn y ddeuddegfed ganrif.
Beca
Daw'r enw 'Beca' o'r enw Beiblaidd, Rebeca, ond efallai fod yr enw Beca yn fwy enwog yng Nghymru oherwydd Terfysg Beca.
Bethan
Ffurf ar yr enw 'Bet' (Elisabeth) yw 'Bethan'.
Carys
Daw'r enw Carys o'r gair 'caru'.
Catrin
Mae'r enw Catrin yn ffurf ar yr enw 'Catherine' a ddaw'n wreiddiol o'r Almaeneg ac yna'r Lladin.
Ceri
Gall Ceri fod yn enw ar fachgen neu ferch. Gallai fod yn ffurf ar yr enw Ceridwen. Mae'r pentref Porth Ceri yn agos at y Barri ym Mro Morgannwg ac mae Ceri hefyd yn enw ar afon yng Ngheredigion.
Efa
Enw Beiblaidd o’r Hen Destament yw Efa. Mae’n ffurf ar yr enwau Saesneg Eva, Evie ac Evelyn.
Elin
Ffurf ar yr enw 'Elen' neu 'Helen' yw Elin. Daw o'r gair Groeg am 'un disglair iawn'.
Erin
Erin yw un o’r geiriau Cymraeg am Iwerddon.
Ffion
Daw'r enw Ffion o'r Aeleg, fionn, sy'n golygu pryd golau neu wyn.
Gwen
Y ffurf fenywaidd ar yr enw Gwyn sy’n golygu teg a golau. Hefyd yn ffurf ar yr enwau Gwenno, Gwenllian a Gwenan.
Heledd
Enw tywysoges o’r 7fed ganrif.
Lowri
Ffurf ar yr enw Saesneg, 'Laura' yw Lowri. Lowri oedd enw mam yr Esgob William Morgan, a gyfieithodd y Beibl i'r Gymraeg yn yr unfed ganrif ar bymtheg.
Mari
Fersiwn Cymraeg o'r enw Mary.
Megan
Mae'r enw 'Megan' yn ffurf ar yr enw 'Marged' (Margaret).
Nia
Daeth yr enw Nia yn boblogaidd yn dilyn llwyddiant awdl delynegol T Gwynn Jones, Tir na n-Og, a gyhoeddwyd yn 1916. Mae'r awdl yn seiliedig ar hen chwedl Wyddeleg, lle mae'r bardd Osian yn syrthio mewn cariad gyda Nia Ben Aur.
Rhian
'Morwyn' yw ystyr yr enw Rhian.
Rhiannon
Roedd Rhiannon yn wraig i Pwyll ac yn fam i Pryderi yn y gainc gyntaf ym Mhedair Cainc y Mabinogi, Pwyll Pendefig Dyfed. Efallai bod yr enw'n dod yn wreiddiol o'r enw Rigantona, a oedd yn dduwies Geltaidd.
Sara
Ystyr Sara yw boneddiges neu dywysoges yn yr Hebraeg.
Sian
Jane yw'r enw Saesneg am Siân.
Sioned
Ffurf ar yr enw Siân yw Sioned. Janet yw'r cyfieithiad Saesneg.
Enwau Poblogaidd i Fechgyn
Aled
Afon yn Sir Ddinbych yw'r Aled. 'Roedd Tudur Aled yn un o feirdd enwocaf Cymru yn y bymthegfed ganrif.
Cai
Daw'r enw Cai o'r Lladin, Caius. 'Roedd Cai yn un o farchogion y Brenin Arthur yn y chwedl ganol-oesol, Culhwch ac Olwen, sy'n rhan o'r Mabinogi.
Carwyn
Golyga'r enw Carwyn 'un a gerir a'i fendithio'.
Dafydd
Roedd Dafydd yn enw poblogaidd yn yr Oesoedd Canol. Dafydd ap Gwilym oedd bardd enwocaf y cyfnod, ac roedd Dafydd ap Gruffudd yn frawd i Lywelyn ein Llyw Olaf, tywysog olaf Cymru. Daw’r enw o’r Hebraeg am ffrind, a David yw’r cyfieithiad Saesneg.
Dylan
Dylan oedd enw mab Arianrhod, a brawd Lleu Llaw Gyffes ym Mhedwaredd Cainc y Mabinogi. Ar ôl ei enedigaeth, aeth yn syth i’r môr, a chafodd yr enw Dylan Eil Ton.
Elis
Cyfieithiad o'r enw Saesneg 'Ellis'.
Emyr
Brenin yw ystyr Emyr.
Gareth
Mae 'Gareth' yn ffurf ar yr enw 'Geraint'. Geraint oedd arwr y chwedl ganol-oesol, Geraint ac Enid. Mae'n bosibl hefyd mai 'gwaraidd' yw ystyr yr enw.
Gethin
Roedd Rhys Gethin yn un o farchogion Owain Glyndwr yn y bedwaredd ganrif ar ddeg.
Gruffudd
Enw brenhinol canoloesol poblogaidd.
Harri
Cyfieithiad o'r enw Harry, ac mae'n ffurf ar yr enw Henry. Daw'r enw o'r Lladin, Henricus, yn wreiddiol.
Ieuan
Daw'r enw Ieuan o'r Lladin, Iohannes. Evan neu John yw'r cyfieithiadau Saesneg.
Iwan
Ffurf ar yr enwau Ifan ac Ioan, a ddaw o'r enw Lladin, Iohannes, yw Iwan. John neu Evan yw'r enwau cyfatebol yn Saesneg.
Jac
Cyfieithiad o'r enw Saesneg ‘Jack’.
Marc
Cyfieithiad o'r enw Saesneg 'Mark'. 'Roedd Marc yn un o ddisgyblion Iesu Grist.
Osian
Roedd Osian yn fardd mewn chwedloniaeth Wyddeleg.
Owain
Wedi'i eni'n dda yw ystyr yr enw Owain. 'Roedd Owain Glyndwr yn arwr cenedlaethol ac yn sylfaenydd Senedd diwethaf Cymru yn y bedwaredd ganrif ar ddeg. Arweiniodd Owain Glyndŵr wrthryfel yn erbyn y Saeson.
Owen
Ffurf ddiweddar ar yr enw Owain
Rhodri
Roedd Rhodri Mawr yn frenin ar Wynedd, Powys a'r Deheubarth yn y nawfed ganrif.
Rhys
Roedd Rhys ap Gruffudd (Yr Arglwydd Rhys) yn arglwydd de orllewin Cymru yn y ddeuddegfed ganrif. Rees neu Rice yw'r cyfieithiad Saesneg.
Siôn
Roedd Siôn Cent yn fardd yn y bymthegfed ganrif, a Twm Siôn Cati yn gymeriad tebyg i Robin Hood yng Nghymru. John yw Siôn yn Saesneg.
Steffan
Daw'r enw Steffan o'r gair Groeg am 'coron'. Steffan oedd y merthyr Cristnogol cyntaf, ac fe ddathlir ei ŵyl ar 26 Rhagfyr. Stephen yw'r enw Saesneg am Steffan.
Tomos
Roedd Tomos yn un o ddisgyblion Iesu Grist. Thomas yw'r enw Saesneg.