Dysgu iaith nes ymlaen mewn bywyd
Yr Athro Enlli Thomas, Dirprwy Is-ganghellor Cysylltiol–Dysgu ac Addysgu (Cyfrwng Cymraeg) ym Mhrifysgol Bangor, sy’n sôn am sut ry’n ni i gyd yn defnyddio, cadw ac yn adfywio’n sgiliau iaith.
Mae gynnon ni i gyd allu anhygoel ar gyfer ieithoedd. A oeddet ti’n gwybod bod yr ‘hyperpolyglot’ mwyaf sy’n fyw heddiw (hynny yw person sy’n siarad nifer enfawr o ieithoedd) yn siarad 59 iaith? Ac nid fo ydi’r unig un chwaith...
Ar draws y byd, mae miliynau o bobl amlieithog (pobl sy’n gallu siarad mwy nag un iaith). A dweud y gwir, mae yna fwy o bobl amlieithog na phobl sydd ond yn siarad un iaith, ac mae pobl amlieithog yn sgwrsio’n rheolaidd â phobl o wahanol ddiwylliannau a chymunedau yn eu gwahanol ieithoedd.
Ond debyg dy fod wedi clywed bod oni bai bod rhywun yn dysgu iaith tra’n blentyn, fydd o byth yn gallu dysgu’r iaith. ‘Dw i wedi clywed hynny droeon. Ond tydi o ddim yn wir.
Mae’r ymennydd â gallu anhygoel i brosesu gwybodaeth o’r newydd ar hyd ein hoes. Ond ella bod y gallu i ddysgu ieithoedd yn gyflymach ac yn fwy awtomatig pan ‘da ni’n ifanc. Dyna pam ‘da ni’n tueddu i ystyried bod plant yn well am ddysgu ieithoedd, gan ‘amsugno’ gwybodaeth o’u hamgylchedd fel sbwng. Ac nid yw’n syndod ein bod ni’n meddwl felly. Sawl un ohonon ni sydd wedi rhyfeddu at wybodaeth plentyn bach am eiriau, a ninnau’n meddwl bod y plentyn erioed wedi clywed y geiriau hynny?
Mae’r broses o ddysgu geiriau yn dechrau’n araf, gyda babanod, rhwng 8 a 12 mis oed, efallai’n dysgu un neu ddau o eiriau y dydd. Ond wedi iddyn nhw gasglu tua 50-100 o eiriau, maen nhw’n aml yn profi yr hyn y mae ymchwilwyr yn ei alw’n ‘ffrwydrad geiriau’ neu ‘vocabulary spurt’—lle maen nhw’n dechrau yngan pob math o eiriau - 10-20 o eiriau newydd - yn wythnosol.
“Following the onset of expressive language, the rate of word acquisition is initially rather slow, with children learning only a few new words per month. Toward the end of the second year, children typically display a sudden spurt in vocabulary growth, roughly after their productive lexicons have reached 50-100 words”
Erbyn eu bod yn 3 neu 4 oed, gall plant addasu iaith er mwyn cyfleu eu hofnau, dymuniadau ac anghenion—camp wyrthiol o ystyried pa mor gymhleth ydy ieithoedd mewn gwirionedd. A dyna un rheswm pam fod rhai pobl yn meddwl bod dysgu ieithoedd ond yn bosib yn ystod plentyndod. Ond nid oed rhaid i hynny fod yn wir.
Mae babanod sydd newydd eu geni yn ymateb i’r synau sy’n nodweddiadol i wahanol ieithoedd yn wahanol, yn ddibynnol ar yr iaith ‘nethon nhw ei ‘chlywed’ yn y groth. Awgryma hyn bod dysgu iaith yn digwydd cyn geni a bod hyn yn rhywbeth mae babanod dynol jyst yn ei wneud.
Yn bendant, mae’r ymennydd hyblyg sydd gan blant yn eu helpu nhw gan ei fod o’n addasu’n weddol gyflym i wybodaeth newydd.
Ond does dim llawer o bwynt mewn cymharu sut mae plant ac oedolion yn dysgu—mae’r ffordd ‘da ni i gyd yn dysgu yn newid dros amser, ac mae hynny wedi’i gysylltu efo newidiadau niwrolegol yn yr ymennydd.
Mae pob plentyn yn gallu dysgu ieithoedd (a bwrw bod pob amod arall yr un peth); mae pob oedolyn yn gallu gwneud hefyd. Ond mae yr hyn ‘da ni’n ei ddisgwyl gan ddysgwyr ar wahanol oedrannau yn gallu amrywio, ac mae hynny’n gallu amharu ar sut ‘da ni’n meddwl am ein gallu i ddysgu. Tra ein bod ni’n annog plant ifanc sy’n dweud “Fi golchi car tedi’’, tydy plant hŷn ac oedolion sy’n dweud rhywbeth tebyg ddim yn cael clod am wneud.
Efallai bod disgyblion ifanc yn cymryd yn hawdd at ieithoedd, gan lwyddo i gyfathrebu’n bwrpasol ac yn gymharol ddiymdrech. Ond mae eu brawddegau nhw’n fyr, yn aml yn anramadegol, ac yn eithaf ailadroddus, ac mae eu cof yn gyfyngedig, sydd yn lleihau y nifer o eiriau sydd ganddyn nhw.
Mae dysgu iaith yn gallu teimlo fel mwy o ymdrech yr hyna’ da ni’n mynd, ac mae siaradwyr yn gallu bod yn fwy hunanymwybodol am ‘wallau’ y byddan nhw efallai yn eu gwneud (beth bynnag yw ‘gwallau’). Ond gydag oed, daw doethineb, cof mwy, a gallu gwell i brosesu gwybodaeth. Mae’r rhain yn sgiliau allweddol wrth ddysgu iaith.
Felly, waeth pa mor hen wyt ti, mae dysgu iaith yn dibynnu ar sawl peth, gan gynnwys dy agwedd dy hun tuag at ddysgu ac at yr iaith, y cyfle gei di i glywed a defnyddio iaith, a beth yw dy gymhelliad dros ei dysgu.
Ella dy fod wedi anfon dy blant i ysgol Gymraeg. Mae hynny’n rhoi cychwyn cynnar iddyn nhw ar eu taith ddwyieithog. Mae’r Gymraeg yn llawer mwy na phwnc ar ei ben ei hun. Mae’n gyfrwng cyfathrebu byw sy’n gallu cael ei ddefnyddio i fynegi syniadau di-derfyn. Mae mynychu addysg Gymraeg yn golygu gallu byw bywyd yn Gymraeg, Saesneg ac ieithoedd eraill.
Darllen pellach
Moon, C., Lagercrantz, H., & Kuhl, t. K. (2013). “Language experienced in utero affects vowel perception after birth: a two-country study.” Acta pædiatrica, 102, tt. 156-160.
Dapretto, M., & Bjork, E. (2000). “The development of word retrieval abilities in the second year and its relation to early vocabulary growth.” Child Development, 71, 635-648.