Neidio i'r prif gynnwy

Beth am ddechrau gwneud pethau bychain nawr i helpu dy blentyn i ddysgu yn Gymraeg? Mae yna wefannau ac apiau ar gael i ti.

Mae Mudiad Meithrin yn trefnu cylchoedd Ti a Fi ar gyfer babanod a Chylchoedd Meithrin ar gyfer plant o ddwy oed hyd at ysgol gynradd ar draws Cymru. 

Mae ymgyrch Mae Addysg yn Dechrau yn y Cartref yn cynnig amrywiaeth o adnoddau ardderchog a llaer o awgrymiadau syml a chyngor i rieni a gofalwyr.

Digon o gemau a rhaglenni i ddiddanu plant ifanc yn Gymraeg gan S4C - ar gael fel gwefan symudol, ap neu ar BBC iPlayer.

Os oes gen ti blant hŷn mae ap yr Urdd yn cynnig digon o syniadau o weithgareddau sydd ar gael yn dy ardal di yn Gymraeg. 

Magu plant - Rhowch amser iddo wedi’i datblygu gan Lywodraeth Cymru gyda help amrywiaeth o sefydliadau a gweithwyr proffesiynol. Mae pob plentyn a phob rhiant yn unigryw. Mae’r wefan hon yn rhoi syniadau i rieni fel y gallan nhw wneud penderfyniadau ynglŷn â beth sy’n gallu gweithio i’w plentyn a’r teulu. Mae’n ceisio helpu rhieni i feithrin perthynas gadarnhaol, iach gyda’u plant.

Rhifau Ffôn Defnyddiol - Grwpiau Cymorth

Cefnogaeth a Dewisiadau Cyn Geni

0845 077 2290

Canolfan Cyngor ar Bopeth

03444 77 2020

La Leche League (bwydo ar y fron)

0845 120 2918

Llinell Gymorth Iechyd Rhyw

0800 567 123

Cymorth i Ferched Cymru

0808 8010 800

Dim Ysmygu Cymru

0800 085 2219

Ymddiriedolaeth Genedlaethol Geni Plant

0300 330 0772

Cyffuriau ac Alcohol Cymru

0808 808 2234

Galw Iechyd Cymru (same number as NHS Direct)

0845 46 47

Cymdeithas Marw-enedigaeth a Marwolaeth Cyn Geni

0207 436 5881

Rhwydwaith Bwydo ar y Fron

0844 412 4664