Neidio i'r prif gynnwy

Mae Llywodraeth Cymru yn falch o gyhoeddi buddsoddiad o dros £2.9m yn rhaglen Cymraeg i Blant dros y pedair blynedd nesa.

Cyhoeddwyd gyntaf:
25 Chwefror 2019
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Ers i’r rhaglen gael ei sefydlu yn Ebrill 2016, mae degau o filoedd o deuluoedd wedi derbyn cefnogaeth i ddefnyddio mwy o Gymraeg.

Gan adeiladu ar y cynnydd mae Cymraeg i Blant wedi ei wneud dros y tair blynedd diwethaf, mae cytundeb newydd wedi ei ddyfarnu i Mudiad Meithrin er mwyn iddynt barhau i ddarparu'r gefnogaeth a chyngor hwn.

Meddai Gweinidog y Gymraeg a Chysylltiadau Rhyngwladol, Eluned Morgan AC:

“Dwi’n falch iawn o gyhoeddi parhad rhaglen Cymraeg i Blant. Mae Cymraeg 2050 yn pwysleisio pwysigrwydd cynyddu cyfraddau trosglwyddo’r Gymraeg o fewn y teulu yn ogystal â sicrhau twf sylweddol yn nifer y plant mewn addysg Gymraeg. Mae cyfraniad hollbwysig gan Cymraeg i Blant i’w wneud i’r ddwy elfen hon ac rwy’n falch o allu cyhoeddi y byddwn yn parhau i gydweithio gyda’r Mudiad Meithrin i ddarparu cefnogaeth ymarferol i deuluoedd ar draws Cymru.”

Meddai Dr Gwenllian Lansdown Davies, Prif Weithredwr Mudiad Meithrin:

“Mae cefnogi rhieni, gofalwyr a theuluoedd i drosglwyddo neu gyflwyno’r Gymraeg i’w plant yn allweddol i’r gwaith fydd yn arwain at gael miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050. Braint Mudiad Meithrin yw cael parhau i wireddu rhaglen gyffrous Cymraeg i Blant gyda gweithgareddau apelgar ar gael yn rhad ac am ddim ar lawr gwlad”.

Meddai Dinah Ellis, rheolwr cenedlaethol Cymraeg i Blant:

“Dros y tair blynedd diwethaf mae Cymraeg i Blant wedi mynd o nerth i nerth ac mae’n braf derbyn cadarnhad fod y cynllun yn parhau i’r dyfodol. Mae’r tîm o swyddogion ar draws Cymru yn edrych ymlaen at barhau i gynnig sesiynau rhad ac am ddim i rannu gwybodaeth gyda theuluoedd am addysg a gofal plant Cymraeg yn ogystal â syniadau ymarferol ar sut i gyflwyno’r Gymraeg yn y cartref.”