Neidio i'r prif gynnwy
A mother and daughter reading from an ipad

Beth bynnag yw iaith y cartref, gall addysg Gymraeg gynnig sgiliau ychwanegol i dy blentyn a mwy o gyfleodd i'r dyfodol.

Mae ymchwil manwl yn dangos bod siarad mwy nag un iaith yn rhoi hwb i blentyn mewn sawl ffordd.

Gall bod yn ddwyieithog:

  • wneud dysgu ieithoedd eraill yn haws, heb sôn am gyflwyno plant i draddodiadau a diwylliannau gwahanol 

  • gael effaith gadarnhaol ar yr ymennydd 

  • fod yn fantais amlwg wrth chwilio am waith

Ysgol Gynradd

Beth am fynd amdani felly a dewis addysg Gymraeg i dy blentyn?  Mae bron i 450 o ysgolion cynradd Cymraeg ledled Cymru – mae hyd yn oed ysgol gynradd Gymraeg yn Llundain. 

Mae addysg Gymraeg ar gael ymhob sir yng Nghymru. Cymraeg yw prif iaith yr iard a'r dosbarth mewn ysgolion cynradd Cymraeg. Bydd dy blentyn yn astudio a chymdeithasu yn Gymraeg. Os nad wyt yn siarad yr iaith mae cefnogaeth ar gael i ti helpu gyda gwaith cartref.

Cymer olwg ar wefan Fy Ysgol Leol i weld pa ysgolion Cymraeg sydd yn dy ardal di neu cysyllta gyda dy Gyngor Sir lleol.

Am fwy o wybodaeth ac atebion i gwestiynnau cyffredin lawrlwytha Llawlyfr Addysg Gymraeg Llywodraeth Cymru neu cymer olwg ar dudalen Facebook Cymraeg i Blant.

Os wyt am gefnogi dy blant gyda'u haddysg ond yn ansicr yn dy Gymraeg neu ddim yn ei siarad o gwbl mae cyngor yma i ti.

Tu allan i’r dosbarth

Mae'n bwysig hefyd defnyddio'r Gymraeg tu allan i'r dosbarth ac mae sawl mudiad sy'n rhoi cyfleoedd i blant wneud hynny. Mae’r Urdd yn trefnu pob math o weithgareddau, gan gynnwys chwaraeon a drama. Lawrlwytha ap ‘Fy Ardal’ i weld be' sy'n digwydd yn dy filltir sgwâr.

Lle arall i edrych am weithgareddau Cymraeg yw gwefannau dy Fenter Iaith a dy gyngor lleol

Mae mwy o wybodaeth ar gael yn y Gymraeg am y system addysg gyffredinol yng Nghymru.