Neidio i'r prif gynnwy

Addysg Cyfrwng Cymraeg

Gall y mwyafrif o blant y byd siarad dwy iaith – beth am roi’r cyfle gorau i dy blentyn allu gwneud yr un peth.

Trwy ddewis addysg Gymraeg, byddi di’n rhoi sgil ychwanegol i dy blentyn — y gallu i gyfathrebu mewn dwy iaith, wrth siarad ac wrth ysgrifennu. Mae ymchwil yn dangos fod pobl ddwyieithog yn ei chael hi’n haws dysgu ieithoedd eraill – mantais bendant i dy blentyn yn yr ysgol. Mae dilyniant ieithyddol hefyd yn gwneud y newid o’r ysgol gynradd i’r uwchradd yn llawer haws i ddisgyblion. 

Dros Gymru mae mwy o gyflogwyr nag erioed o’r blaen yn chwilio am staff gyda sgiliau dwyieithog

Mae dros draean o gyflogwyr yn credu bod sgiliau iaith Gymraeg yn bwysig ar gyfer eu gwasanaeth cwsmer, ac mae dros chwarter cyflogwyr yn credu y byddent yn elwa o gael mwy o sgiliau iaith Gymraeg. Mae sgiliau dwyieithog plant yn datblygu orau wrth gael eu defnyddio bob dydd, ac mae addysg Gymraeg neu ddwyieithog yn rhoi cyfle i blentyn ddatblygu ei sgiliau gan ddod yn fwy rhugl a hyderus. 

Ysgol Gynradd

Mae dros 65,000 o blant mewn ysgolion cynradd cyfrwng Cymraeg neu ddwyieithog yng Nghymru, pam mae rhieni yn ystyried y Gymraeg yn bwysig i’w plant? Darllenwch rai o'u straeon isod.

Symudodd Sharon Ackroyd a'i theulu o Swydd Efrog i Benfro, a phenderfynodd anfon ei phlant i'r ysgol gyfrwng Cymraeg leol.

"Roeddwn eisiau ysgol lai mewn cymuned lle bydd fy mhlant yn fwy na rhif arall, ac mae'r ymchwil yn dangos bod dwyieithrwydd yn ased gwych iddynt. Credaf, os ydych chi'n byw mewn gwlad lle mae iaith arall heblaw Saesneg yn cael ei ddefnyddio, dylech wneud ymdrech fawr i'w ddysgu a'i ddefnyddio.

"Wrth gwrs, roedd gennyf bryderon, gan mai dim ond yn Saesneg y cafodd fy mhlant erioed eu haddysgu ac roedd gen i deulu a ffrindiau a oedd yn meddwl bod y syniad ohonynt yn mynd i ysgol gyfrwng Cymraeg yn wallgof, ond yn fy nghalon roeddwn i’n gwybod beth oedd y peth gorau iddyn nhw.

"Gan fod y plant mor ifanc, mae eu hanfon yn syth i mewn i ffrwd Gymraeg yn golygu y bydd yn yr iaith yn dod yn fwy naturiol iddyn nhw ac ni fyddant byth yn gwybod y gwahaniaeth. Yn y cartref rydym yn ceisio defnyddio'r Gymraeg trwy ganu hwiangerddi a mynd trwy waith cartref y bechgyn. Maen nhw hefyd yn gwylio rhaglenni teledu Cymraeg, a gan fy mod i’n dysgu rydw i’n gwylio S4C yn aml, gan fy mod yn credu bod y teledu yn gymorth mawr wrth ddysgu iaith." 

Gwylia y fideo am fwy o wybodaeth

Ysgol Uwchradd

Mae ymchwil yn dangos bod y sgiliau iaith gwerthfawr a ddysgwyd yn yr ysgol gynradd yn cael eu colli’n gyflym os yw cyfrwng yr addysg yn newid. Mae nifer o ysgolion uwchradd cyfrwng Cymraeg a dwyieithog yn perfformio’n dda, gyda rhai ysgolion ymysg y gorau yng Nghymru. Bydd dy blentyn yn astudio’r mwyafrif o bynciau drwy gyfrwng y Gymraeg neu yn y ddwy iaith.

Dyma beth ddywedodd rhieni am ddewis anfon eu plentyn i ysgol uwchradd cyfrwng Cymraeg: 

Dewisodd Stu barter o Benarth anfon ei ferch Millie i ysgol gynradd Gymraeg, ac yn ddiweddar symudodd ymlaen i uwchradd cyfrwng Cymraeg.

"Mae ambell un o gyfoedion Millie o'r ysgol gynradd wedi dewis symud i ysgolion uwchradd cyfrwng Saesneg, sy'n ymddangos yn wastraff. Cynorthwywyd Millie gan drosglwyddiad gwych o'r cynradd i'r uwchradd ac roedd hi’n awyddus i barhau â'i thaith addysg drwy'r Gymraeg. 

"Mae fy Nghymraeg yn eithaf cyfyngedig, a byddai'n dda gennyf pe bawn wedi rhoi mwy o sylw i'r Gymraeg pan roeddwn i’n yr ysgol, felly roedd pryder ynglŷn â gallu helpu Millie gyda’i gwaith cartref, ond roedd yr ysgol yn gefnogol iawn i'r holl rieni, oes oedden nhw’n siarad Cymraeg a’i peidio.

"Fe wnaethon ni ymdrech i wneud yn siŵr ei bod hi'n darllen llawer o Gymraeg yn ei blynyddoedd cynnar, gan fy mod i'n gwybod y byddai gallu sgwrsio mewn dwy iaith yn helpu Millie yn nes ymlaen mewn bywyd hefyd, o ran dewisiadau gyrfa a dysgu ieithoedd ychwanegol. Byddai dewis addysg cyfrwng Cymraeg yn rhywbeth y byddwn yn ei argymell yn bendant i rieni eraill."

Nid yw Rebekah Tune a'i gŵr o Gaerdydd yn siarad Cymraeg, ond penderfynodd nhw anfon eu dwy ferch i ysgolion cyfrwng Cymraeg. 

"Ar hyn o bryd mae gennym un ferch mewn ysgol gynradd Gymraeg, a'r llall mewn ysgol uwchradd cyfrwng Cymraeg. Pan oeddem yn edrych ar ysgolion uwchradd ar gyfer ein merch hynaf, roedd yn ddewis naturiol iddi fynd ymlaen i ysgol uwchradd cyfrwng Cymraeg ar ôl mynychu ysgol gynradd Gymraeg. 

“O edrych ar bob ysgol yn ein talgylch, a heb ystyried cyfrwng Cymraeg fel opsiwn, roedd yr ysgol wedi gwneud argraff fawr arnom. Cawsom ein croesawu'n gynnes a'n tywys o gwmpas, a gweld disgyblion oedd i gyd mor gyfeillgar a chwrtais, a dod i ffwrdd â theimlad da amdano. Wedyn fe wnaethon ni feddwl ac ymchwilio am fanteision dwyieithrwydd a chawsom ein hargyhoeddi i fynd amdani. Rwy'n credu mai dyma'r penderfyniad gorau i ni ei wneud erioed. 

"Y prif bryder oedd a fyddem yn gallu darparu'r gefnogaeth iawn gyda gwaith ysgol, ac a fyddem yn cyd-fynd â rhieni eraill. Fodd bynnag, dydyn ni ddim wedi cael unrhyw broblemau gan fod yr ysgol yn gyfarwydd â chyfathrebu â rhieni yn y ddwy iaith ac mae llawer o rieni eraill yno sydd ddim yn siarad Cymraeg. Rwyf wedi dysgu rhywfaint o Gymraeg fy hun o ganlyniad i ddarllen ynghyd â’r plant, ac mae eu gwaith cartref yn cael ei esbonio'n ddwyieithog bob amser er mwyn i ni allu helpu yn ôl yr angen. Roeddwn hefyd yn poeni ychydig y byddai eu Saesneg yn dioddef, ond maent yr un mor dda yn y ddwy iaith. 

"Mae wedi bod yn gwbl ryfeddol eu gweld yn dysgu iaith arall. Mae fel y wefr a gewch o'u geiriau cyntaf eto pan mae nhw’n dechrau siarad. Mae'n ystrydeb ond maen nhw fel sbyngau a heb unrhyw broblem addasu i iaith newydd – trueni nad yw mor hawdd ar ôl cyrraedd fy oed i! Mae manteision profedig i ddwyieithrwydd mewn unrhyw iaith o ran datblygiad yr ymennydd, a'r teimlad sydd gennyf yw, os gallwch roi hyn i'ch plentyn yn ddi-gost, pam na fyddech chi'n ei wneud? Maent ill dau yn falch iawn o siarad Cymraeg, ac ar ddiwedd yr ysgol gynradd fe ennillodd fy merch hynaf y Gadair yn yr Eisteddfod ysgol, a oedd yn foment falch iawn i ni i gyd." 

Gwylia y fideo am fwy o wybodaeth

Gwybodaeth i rieni

Mae fy mhlentyn yn mynd i ysgol Saesneg ar hyn o bryd. A yw’n rhy hwyr i drosglwyddo i addysg Gymraeg?

“Mae pob ysgol Gymraeg neu ddwyieithog yn croesawu siaradwyr di-Gymraeg. Mewn rhai ardaloedd bydd dy blentyn yn treulio amser mewn canolfan drochi iaith. Yma, cânt addysg ieithyddol ddwys nes y byddant yn medru siarad, darllen ac ysgrifennu yn y Gymraeg cyn trosglwyddo i ysgol Gymraeg.” Aled Jones - Pennaeth canolfan iaith, Caerdydd

Sut mae cyrraedd ein hysgol Gymraeg lleol?

Paid â phoeni os nad yw dy ysgol leol o fewn pellter cerdded. Cysyllta gyda dy gyngor lleol i gael gwybod mwy am y gefnogaeth sydd ar gael i helpu i gludo dy blentyn i’r ysgol.

Beth yw’r ffordd orau o ddysgu’r iaith neu wella fy Nghymraeg? 

Mae amrywiaeth o gyrsiau ar gael i ddysgwyr o bob lefel, ac ar gyfer gwella’ch Cymraeg hefyd, ar gael ledled Cymru drwy'r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol - https://dysgucymraeg.cymru/

I ddod o hyd i'ch ysgol gynradd neu uwchradd cyfrwng Cymraeg leol, ewch ihttp://mylocalschool.wales.gov.uk/?lang=cy