Neidio i'r prif gynnwy
A mother reading to her two children

Gelli lawrlwytho rhestr gyflawn o’r amryw adnoddau addysg Cymraeg sydd wedi’u comisiynu gan Lywodraeth Cymru ar gyfer plant a phobl ifanc rhwng 3 - 19 oed.

Mae’r adnoddau hyn wedi’u comisiynu er mwyn cefnogi’r gwaith o addysgu a dysgu pynciau’r cwricwlwm a phynciau galwedigaethol drwy gyfrwng y Gymraeg.

Gelli hidlo’r rhestr i gael gweld yr adnoddau fesul pwnc a/neu Cyfnod Allweddol. I dderbyn gwybodaeth am y teitlau diweddaraf wrth iddynt gael eu cyhoeddi, dilyn @iaithfyw ar Twitter.

Daearyddiaeth Ryngweithiol

Un enghraifft o’r adnoddau sydd ar gael yw ‘Daearyddiaeth Ryngweithiol’ - adnodd ar-lein i bobl ifanc sy’n astudio ac adolygu Daearyddiaeth ar gyfer TGAU. Gelli ddysgu mwy amdano a’i lawrlwytho ar wefan Hwb.