“Mae un person yn cysgu allan ar ein strydoedd yn un person yn ormod”, meddai’r Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol, Julie James, wrth drafod ffigurau ar gysgu allan sydd newydd gael eu rhyddhau.
“Er nad yw’r amcangyfrifon o nifer y bobl sy’n cysgu allan ar y stryd yng Nghymru wedi dangos unrhyw gynnydd sylweddol o gymharu â’r adeg hon y flwyddyn ddiwethaf, rydyn ni i gyd yn gwybod, o gerdded drwy ein trefi a’n dinasoedd, bod y digartrefedd amlwg hwn yn parhau’n broblem yng Nghymru – mae llawer mwy i’w wneud.”
Mae’r Cyfrif Cenedlaethol o Bobl sy’n Cysgu Allan yn amcangyfrif nifer y bobl sy’n cysgu allan dros gyfnod o bythefnos ac ar un noson benodol yng Nghymru. Mae awdurdodau lleol yn dweud bod y ffigurau’n awgrymu bod dau berson ychwanegol yn cysgu allan dros y cyfnod o bythefnos o gymharu â’r un adeg y flwyddyn ddiwethaf. Mae hyn yn gynnydd o lai na un y cant, i 347 person.
O ran y cyfrif un noson, nododd awdurdodau bod 158 o bobl yn cysgu allan ar y noson benodol honno. Mae hyn yn gwymp o 16 y cant, neu 30 person, o gymharu â’r flwyddyn flaenorol. Fodd bynnag, roedd y tywydd yn wael ledled Cymru'r noson honno, felly gallai hynny fod wedi effeithio ar y ffigurau.
Ledled Cymru, roedd 184 o welyau brys ar noson y cyfrif un noson – gyda 18 y cant ohonynt, sef 33 gwely, yn wag ac felly ar gael.
Dywedodd Julie James:
“Amcangyfrifon yw’r rhain – felly rhaid bod yn ofalus gyda nhw. Ond ymddengys bod nifer y bobl sy’n cysgu allan yn sefydlogi yn gyffredinol, ac yn cwympo mewn rhai ardaloedd.
“Rydyn ni’n buddsoddi mwy na £30m eleni a’r flwyddyn nesaf i fynd i’r afael â digartrefedd, a’i atal. Rydyn ni wedi ymrwymo i adeiladu mwy o dai fforddiadwy ac rydym yn gweithredu i ddiogelu ein stoc dai cymdeithasol.
“Fe barhawn i dreialu’r model Tai yn Gyntaf mewn prosiectau peilot ar draws Cymru, a hynny gyda chefnogaeth £700,000 o gyllid ychwanegol. Mae’n ddyddiau cynnar yn y prosiectau hyn, ond rydyn ni eisoes yn gweld tystiolaeth o lwyddiant o ran cael pobl sydd wedi bod yn cysgu allan ers amser maith i mewn i gartref.
“Yn ddiweddar, ymwelais â phrosiect Tai yn Gyntaf Byddin yr Iachawdwriaeth yng Nghaerdydd a chwrdd â rhywun sydd wedi cael cartref drwy’r prosiect. Soniodd am y gwahaniaeth syfrdanol y mae hynny wedi’i wneud i’w fywyd. Gall y rhesymau y mae pobl yn canfod eu hunain yn cysgu allan fod yn rhai amrywiol a chymhleth - rydyn ni wedi ymrwymo i sicrhau bod gan bawb yng Nghymru gartref addas.”