Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi cyllid cyfalaf ychwanegol ar gyfer Cyngor Llyfrau Cymru i fuddsoddi mewn systemau technoleg a fydd yn helpu'r diwydiant cyhoeddi yng Nghymru i dyfu.
Mae £750,000 ychwanegol wedi cael ei sicrhau gan gyllideb 2020–21, a bydd yn caniatáu i Gyngor Llyfrau Cymru gyflwyno system TG integredig newydd i reoli'r gwaith o werthu, cyflenwi a dosbarthu llyfrau, a fydd hefyd yn cefnogi gwaith cyhoeddwyr Cymru.
Mae £145,000 o gyllid cyfalaf ychwanegol i Gyngor Llyfrau Cymru ar gyfer y flwyddyn ariannol bresennol wedi rhoi hwb arall i'r diwydiant cyhoeddi llyfrau yng Nghymru. Mae'r sector cyhoeddi wedi cael ei nodi fel sector ar gyfer twf yn dilyn lansio Cymru Greadigol ym mis Ionawr. Mae diwydiant cyhoeddi iach yn rhan hanfodol o hunaniaeth ddiwydiannol Cymru, a bydd cymorth gan Gymru Greadigol ar gyfer Cyngor Llyfrau Cymru yn helpu i ategu gwasanaethau hanfodol ar gyfer y diwydiant cyhoeddi yn Gymraeg a Saesneg.
Dywedodd y Dirprwy Weinidog Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth, yr Arglwydd Elis-Thomas:
"Ar Ddiwrnod y Llyfr pan fyddwn ni'n dathlu storïau a'n cariad at ddarllen, dw i wrth fy modd ein bod yn gallu cefnogi Cyngor Llyfrau Cymru i fuddsoddi yn y rhan hanfodol hon o economi Cymru. Bydd hyn yn rhoi hwb sylweddol i Gyngor Llyfrau Cymru, yn ogystal â'r diwydiant cyhoeddi yng Nghymru yn gyffredinol. Mae cefnogi diwydiant cyhoeddi dwyieithog llwyddiannus yng Nghymru nid yn unig yn cyfrannu at ein strategaeth twf economaidd ehangach ar gyfer y diwydiannau creadigol yng Nghymru, ond mae hefyd yn cefnogi nifer o fentrau microfusnes, sydd yng nghefn gwlad Nghymru yn bennaf ac yn cyfrannu at eu heconomi leol.
Dywedodd Helgard Krause, Prif Weithredwr, Cyngor Llyfrau Cymru:
"Rydyn ni'n ddiolchgar iawn i Lywodraeth Cymru am gefnogi ein cynlluniau cyffrous i uwchraddio ein systemau TG, gan sicrhau ein bod yn parhau i gystadlu â'r diwydiant cyhoeddi ledled y DU a'r tu hwnt. Mae ein canolfan ddosbarthu yn darparu gwasanaeth rhagorol ar gyfer cyhoeddwyr a gwerthwyr llyfrau, a bydd yn gallu cynnig gwasanaeth gwell byth yn dilyn yr uwchraddiad hwn i’r system. Drwy fuddsoddi mewn cyfres o welliannau trawsnewidiol, byddwn ni'n helpu busnesau cyhoeddi a gwerthu llyfrau i dyfu, ac o ganlyniad yn helpu economi sylfaenol Cymru a'r diwydiannau creadigol – yn ogystal â hyrwyddo darllen.