Neidio i'r prif gynnwy

Bydd buddsoddiad o’r newydd gan Lywodraeth Cymru yn helpu i ddarparu prydau a gweithgareddau o ansawdd yn ystod gwyliau haf ysgolion er mwyn helpu disgyblion o rai o gymunedau mwyaf...

Cyhoeddwyd gyntaf:
3 Ionawr 2017
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Bydd £500,000 yn mynd tuag at glybiau hwyl a chinio mewn rhai ysgolion cynradd yn ystod gwyliau haf yr ysgol. Bydd yr arian yn helpu i ddarparu brecwast, cinio, addysg am fwyta’n iach a rhaglen o weithgareddau fydd yn cael eu datblygu drwy’r ysgolion fydd yn cymryd rhan.

Mae pump awdurdod lleol yng Nghymru eisoes yn cynnal cynlluniau o’r fath a bydd cynghorau yn gallu manteisio ar y cyllid newydd ar gyfer blwyddyn ariannol 2017/18. Bydd union natur pob clwb yn amrywio yn ôl yr ardal. Bydd Llywodraeth Cymru’n gweithio’n agos nawr gyda Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru i rannu’r arian a bydd rhagor o fanylion yn cael eu cyhoeddi yn hwyrach yn ystod y flwyddyn.

 

Dywedodd Kirsty Williams:

 

“Mae’n dda gen i gyhoeddi y bydd £500,000 ar gael tuag at glybiau hwyl a chinio a fydd yn rhoi cyfle i blant fod yn fwy egnïol, bwyta’n iach a datblygu cyfeillgarwch â disgyblion eraill tra byddant yn gwneud y mwyaf o’r cyfleusterau yn ein hysgolion lleol.

“Bydd y clybiau hyn yn cynnig amgylchedd positif i’n holl blant yn ystod gwyliau’r haf, a bydd prydau bwyd am ddim yn cael eu darparu hefyd yn ogystal â nifer o weithgareddau a hwyl ar adeg all fod yn gyfnod hir i rai. Drwy gynnwys ein prifysgolion yn y cynllun hefyd byddwn yn codi gobeithion a dyheadau plant ledled Cymru.

“Y realiti i rai o’n plant yw bod gwyliau’r haf yn gallu bod yn gyfnod anodd. Mae plant sy’n cael brecwast a chinio am ddim yn yr ysgol yn aml yn mynd heb brydau bwyd ac yn llwgu unwaith y bydd drysau’r ysgol yn cau am y gwyliau. Gall diffyg cynlluniau chwarae a gweithgareddau chwaraeon am ddim hefyd gael effaith ar y rhai hynny sy’n dod o’r cefndiroedd mwyaf difreintiedig.

“Fy uchelgais yw gwneud yn siŵr bod pawb yng Nghymru, o ba gefndir bynnag maen nhw, yn cael y cyfle i ffynnu a chyflawni eu potensial. Rwy’n gwbl ymrwymedig o gau’r blwch rhwng cyflawniad disgyblion o’n cymunedau mwyaf difreintiedig a disgyblion o’r ardaloedd mwy ffyniannus.”