Mae cynlluniau rhyddhad ardrethi busnes i gefnogi'r sectorau gofal plant, ynni dŵr a manwerthu yn dod i rym heddiw.
Bydd y tri chynllun yn darparu cymorth y mae dirfawr ei angen i fusnesau bach lleol yn y cyfnod o ansicrwydd ariannol sydd ohoni.
Bydd y cynllun rhyddhad ardrethi gofal plant yn darparu 100% o ryddhad ardrethi i ddarparwyr gofal plant, ac mae werth £7.5m dros dair blynedd. Cafodd ei lunio i helpu'r sector i weithredu a thyfu; i greu swyddi newydd a gwella mynediad at leoliadau gofal plant. Bydd ei effaith yn cael ei adolygu dros y cyfnod o dair blynedd.
Mae hyd at 50 o brosiectau ynni dŵr wedi elwa ar ryddhad ardrethi dros y flwyddyn ddiwethaf, a bydd hyn yn cynyddu wrth i'r cynllun ynni dŵr gael ei ymestyn yn 2019-20.
Bydd parhau â'r cynllun grant yn rhoi mwy o gymorth i fwy o ddatblygwyr ynni dŵr yng Nghymru. Bydd yn helpu prosiectau cymwys, sydd â gwerth ardrethol o hyd at £50,000, i gadw cymaint â phosib o fanteision i'w hardal leol a'u galluogi i ail-fuddsoddi yn eu cymuned leol. Mae'r cynllun nawr yn gwahodd prosiectau ynni dŵr i ymgeisio am grant tuag at eu hardrethi busnes.
Lansiwyd y cynllun rhyddhad ardrethi'r stryd fawr yn wreiddiol ym mis Ebrill 2017 yn dilyn ailbrisio gan y corff annibynnol, Asiantaeth y Swyddfa Brisio.
Mae'n cael ei ymestyn a'i ehangu yn 2019-20, gan ddarparu £23.6m yn ychwanegol o gymorth i fusnesau manwerthu a’r stryd fawr yng Nghymru. Bydd y cynllun ehangach yn mynd yn sylweddol bellach na'r blynyddoedd blaenorol, gan ddarparu hyd at £2,500 i fanwerthwyr tuag at eu biliau annomestig ar gyfer eiddo â gwerth ardrethol o hyd at £50,000.
Ymysg y talwyr ardrethi fydd yn elwa mae siopau, bwytai, caffis, tafarndai a bariau gwin.
Dywedodd y Gweinidog Cyllid, Rebecca Evans:
"Rwy'n falch iawn bod y tri chynllun rhyddhad ardrethi yma yn helpu busnesau ar draws tri sector gwahanol iawn yng Nghymru yn y cyfnod ansicr hwn.
"Bydd torri trethi busnesau yn helpu i ysgogi twf economaidd yn y tymor hir, cynnal swyddi a helpu i gyflawni ein nodau ynghylch yr hinsawdd, gan ddod â manteision ehangach i'n cymunedau lleol ar yr un pryd."