Bydd cyllid Llywodraeth Cymru ar gyfer cynlluniau ledled Cymru yn helpu i gefnogi cymunedau a lliniaru tlodi plant, yn ôl Jane Hutt, Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol.
Mae'r prosiectau a fydd yn elwa ar y cyllid yn cefnogi nodau'r Strategaeth Tlodi Plant sy'n amlinellu sut y bydd Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda phartneriaid a sefydliadau i fynd i'r afael â'r mater.
Yn ddiweddar, ymwelodd Ysgrifennydd y Cabinet â phrosiect sy’n cefnogi cymuned Somalïaidd Caerdydd ac sy'n un o lawer ledled Cymru sy'n cael eu hariannu gan Grant Arloesi Tlodi Plant a Chefnogi Cymunedau Llywodraeth Cymru.
Nod prosiect Grymuso Teuluoedd Somalïaidd, a arweinir gan Ymddiriedolaeth Menywod Hayaat ar ran Cynghrair y sefydliadau a arweinir gan gymunedau Somalïaidd, yw cefnogi'r gymuned a mynd i'r afael â thlodi plant trwy ddod â gwasanaethau ynghyd a sicrhau eu bod yn targedu'r bobl sydd eu hangen.
Bydd buddsoddiad Llywodraeth Cymru yn sicrhau bod 3 hyb lloeren yn cael eu sefydlu a'u gweithredu yn Butetown, Grangetown a Glan yr Afon.
Bydd yr hybiau hyn yn darparu gwasanaethau sydd wedi'u cynllunio i liniaru tlodi plant, gan gynnwys gwasanaethau hanfodol i deuluoedd Somalïaidd yng Nghaerdydd.
Y math o wasanaethau a gaiff eu darparu fydd clybiau tiwtora a gwaith cartref ar ôl yr ysgol, ffeiriau swyddi a sesiynau hyfforddi mewn sgiliau allweddol fel TG, yn ogystal â chyngor ar sicrhau sefydlogrwydd ariannol a mynediad at adnoddau hanfodol i deuluoedd mewn angen.
A bydd y cymorth hwn yn helpu i wella canlyniadau addysgol i blant, cynyddu cyflogadwyedd a chyfleoedd gwaith, a chryfhau rhwydweithiau cadernid a chymorth cymunedol, a mwy.
Dywedodd Faisal Hashi o Ymddiriedolaeth Menywod Hayaatt:
Rydyn ni wedi defnyddio dull trylwyr sy’n seiliedig ar dystiolaeth i edrych ar y gwahanol agweddau sy'n effeithio ar y gymuned Somalïaidd. Roedd yr angen i weld gwasanaethau'n gweithio gyda'i gilydd er lles pobl yn allweddol i hynny.
Bydd y cyllid gan Lywodraeth Cymru yn bwysig i'n helpu i fynd i'r afael â materion fel tlodi plant ac mae'n gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i'r gwaith rydyn ni'n ei wneud yn y gymuned.
Dywedodd yr Ysgrifennydd Cyfiawnder Cymdeithasol, Jane Hutt:
Mae ein Strategaeth Tlodi Plant yn ymateb i'r hyn a glywson ni gan dros 3,300 o blant, pobl ifanc a'u teuluoedd, yn ogystal â'r sefydliadau sy'n gweithio gyda nhw, am yr heriau y maen nhw'n eu hwynebu o ran tlodi, a'r pethau a fyddai'n gwneud y gwahaniaeth mwyaf i'w bywydau.
Mae'r Strategaeth yn ei gwneud yn glir bod angen cydweithio cryfach rhwng sefydliadau sy'n gweithio ar lefelau lleol a rhanbarthol ar drechu tlodi. Dyma'n union beth mae prosiect Grymuso Teuluoedd Somalïaidd yn bwriadu ei gyflawni.
Bydd y prosiect hwn, ynghyd â'r holl ddarnau eraill o waith y mae Llywodraeth Cymru yn eu hariannu ledled Cymru, yn allweddol wrth fynd i'r afael â thlodi plant.