Neidio i'r prif gynnwy

Mae Gweinidogion Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi £6.5 miliwn i gefnogi awdurdodau lleol a phobl y mae llifogydd yn effeithio arnynt yn ystod cyfyngiadau symud Lefel rhybudd 4.

Cyhoeddwyd gyntaf:
27 Ionawr 2021
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Bydd yr arian yn caniatáu i awdurdodau lleol wneud cais am gostau ymateb i lifogydd gan gynnwys cymorth i breswylwyr i fynd i'r afael â chost uniongyrchol difrod dŵr ac adnewyddu nwyddau angenrheidiol.

Mae Llywodraeth Cymru eisoes wedi cyhoeddi y bydd yn cefnogi aelwydydd sydd wedi dioddef llifogydd yn eu cartrefi neu fu’n rhaid gadael eu cartrefi gyda taliadau o £500 a £1,000, yn debyg i'r cymorth a ddarparwyd yn ystod stormydd Ciara a Dennis y llynedd.

Dywedodd Julie James, y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol:

"Mae delio â'r difrod a achosir gan lifogydd yn ddigon anodd, ond mae gorfod delio ag ef yng nghanol pandemig yn heriol dros ben. Bydd y gronfa hon yn galluogi awdurdodau lleol i wneud taliadau i unigolion i'w cynorthwyo i aros yn eu cartrefi eu hunain yn ddiogel, er mwyn lleihau cysylltiadau a lledaeniad y feirws.

"Mae awdurdodau lleol yn gweithio'n eithriadol o galed i gefnogi pobl y mae eu cartrefi wedi'u distrywio gan lifogydd ac rwy’n estyn fy nghydymdeimlad a'm cefnogaeth i bawb yr effeithiwyd arnynt."

Dywedodd y Gweinidog Cyllid Rebecca Evans:

"Rydyn ni’n deall yr effaith ddinistriol y mae llifogydd mawr yn eu cael ar gymunedau, yn enwedig yn ystod y cyfnod heriol hwn. 

"Dwi'n falch y bydd y cyllid ychwanegol rydyn ni’n ei gyhoeddi heddiw yn helpu awdurdodau lleol i ddarparu cymorth hanfodol i'r rhai yr effeithir arnyn nhw."