Neidio i'r prif gynnwy

Mae'n bwysig bod pawb yn gofalu am eu lles personol. Gallwch gael cymorth a chyngor gan y sefydliadau canlynol.

Cyhoeddwyd gyntaf:
28 Chwefror 2020
Diweddarwyd ddiwethaf:

FarmWell Cymru

Mae FarmWell Cymru yn ganolfan wybodaeth ar-lein sy'n cynnwys:

  • ffynonellau gwybodaeth sy'n hawdd eu defnyddio
  • canllawiau ar sut y gallwch gael gafael ar gymorth a mentora ychwanegol, o safbwynt busnes a phersonol. 

Ewch i www.farmwell.cymru am ragor o wybodaeth.

Y Rhwydwaith Cymunedau Fferm

Mae'r Rhwydwaith Cymunedau Fferm yn sefydliad gwirfoddol ac yn elusen.  Mae'n cefnogi ffermwyr, gweithwyr amaethyddol a theuluoedd yn y gymuned ffermio.

Gall y Rhwydwaith helpu gydag amrywiaeth o faterion, gan gynnwys:

  • materion iechyd a lles anifeiliaid
  • materion iechyd meddwl, fel iselder, straen a theimlo’n ynysig
  • materion iechyd corfforol, fel salwch hirdymor a damweiniau
  • materion teuluol, megis ymddeol, olyniaeth, tor perthynas a gwneud ewyllys.

Gallwch ffonio’r llinell gymorth Rhadffôn ar 03000 111 999 i siarad â rhywun rhwng 7am a 11pm. Gallwch hefyd e-bostio: help@fcn.org.uk

Am ragor o wybodaeth, ewch i www.fcn.org.uk

Cronfa Addington

Mae Cronfa Addington yn elusen i ffermwyr a'u teuluoedd.  Ar adegau o argyfwng a chaledi, efallai y byddant yn gallu darparu rhyddhad rhag trychinebau i ffermwyr ar sail genedlaethol, ranbarthol ac unigol.

Mae'r elusen hefyd yn darparu cartrefi i deuluoedd sydd wedi gorfod gadael eu ffermydd heb fod unrhyw fai arnynt eu hunain, ac sydd mewn perygl o fod yn ddigartref.  

Cysylltwch â’r llinell gymorth ar 01926 620135.

Am ragor o wybodaeth, ewch i www.addingtonfund.org.uk

Sefydliad DPJ

Mae Sefydliad DPJ cefnogi pobl ym maes  amaethyddiaeth ac mewn cymunedau gwledig sydd â phroblemau iechyd meddwl.  Mae'r elusen yn darparu cwnsela lleol penodol drwy'r fenter 'Rhannwch y Baich' a hyfforddiant pwrpasol ar ymwybyddiaeth iechyd meddwl. 

Cysylltwch â’r llinell gymorth Rhadffôn ar 0800 587 4262, neu anfonwch neges destun at 07860 048799.

Am ragor o wybodaeth, ewch i www.thedpjfoundation.co.uk

Sefydliad Fuddianol Amaethyddol Frenhinol (RABI)

Mae RABI yn elusen genedlaethol. Mae’n darparu cymorth lleol i’r gymuned ffermio ledled Cymru a Lloegr. Wedi'i sefydlu yn 1860, mae RABI wedi cefnogi ffermwyr o bob oed ers cenedlaethau.

Mae RABI yn cynnig:

  • cymorth ariannol
  • cymorth ymarferol
  • cyngor cyfrinachol
  • mynediad at gwnsela proffesiynol, dienw am ddim

Ffoniwch y llinell gymorth 24/7 ar 0800 188 4444, neu e-bostiwch: help@rabi.org.uk

I gael rhagor o wybodaeth, ewch i www.rabi.org.uk

Tir Dewi

Mae Tir Dewi yn elusen sy'n cefnogi ffermwyr a'u teuluoedd.  Mae rhwydwaith o wirfoddolwyr ar gael i

  • wrando a chynnig cyfrinachedd llwyr
  • helpu i flaenoriaethu a datrys problemau
  • rhoi ffermwyr mewn cysylltiad â sefydliadau partner a all gynnig cymorth penodol gydag amrywiaeth o broblemau cymhleth.

Cysylltwch â’r llinell gymorth Rhadffôn ar 0800 121 4722, neu e-bostiwch mail@tirdewi.co.uk

Am ragor o wybodaeth, ewch i www.tirdewi.co.uk

Mind Cymru

Mae Mind Cymru yn rhoi cyngor a chefnogaeth i unrhyw un sydd â phroblem iechyd meddwl. Mae gwybodaeth ar gael am ble i gael help, meddyginiaeth a thriniaethau amgen.

Gallwch ffonio Mind Cymru rhwng 9am a 6pm, o ddydd Llun i ddydd Gwener (ac eithrio gwyliau banc) ar 0300 123 3393 Gallwch hefyd anfon neges destun i 86463, neu e-bostiwch info@mind.org.uk.

Ewch i www.mind.org.uk/about-us/mind-cymru/ i gael gwybod mwy.

Y Samariaid

Gallwch gysylltu â'r Samariaid 24 awr y dydd, bob dydd, o unrhyw ffôn, hyd yn oed ffôn symudol heb gredyd. Ffoniwch eu llinell gymorth am ddim ar 116123 i siarad â rhywun.

Os hoffech gael cymorth emosiynol yn Gymraeg, mae gennym linell gymorth Gymraeg. Mae'n rhad ac am ddim i alw bob dydd rhwng 7pm ac 11pm. Ffoniwch ni ar 0808 164 0123.

Ni fydd y rhifau hyn yn ymddangos ar eich bil ffôn.
Neu gallwch anfon neges e-bost at jo@samaritans.org neu fynd i www.samaritans.org.