Neidio i'r prif gynnwy

1. Trosolwg

Gall prosiectau i ailddatblygu a gwella canol trefi neu eu hardaloedd cyfagos fod yn gymwys i gael help ariannol gan y rhaglen Trawsnewid Trefi sy'n cynnwys y gronfa benthyciadau trawsnewid trefi. Mae'r rhaglen yn hyrwyddo trefi defnydd cymysg fel llefydd i fyw ynddynt, i weithio ynddynt, i ymweld â nhw ac i aros ynddynt.

Enghreifftiau o brosiectau a allai fod yn gymwys i gael cymorth

  • datblygu adeiladau sydd heb eu defnyddio, sy'n wag neu sydd mewn cyflwr gwael a'u troi'n fusnesau, tai, cyfleusterau hamdden, eiddo masnachol, neu gyfleusterau cymunedol
  • gwella golwg adeiladau a/neu eu hail gynllunio i'w gwneud yn fwy ymarferol 
  • gwella eiddo sy'n bodoli eisoes drwy gyflwyno gwasanaethau arloesol a chysylltedd, megis band eang cyflym iawn, a fydd yn denu busnesau