Bydd £2.4m o gyllid adfer yn sgil Covid yn cael ei roi ar gyfer gwaith i gefnogi sgiliau Cymraeg a’r defnydd o’r Gymraeg, er mwyn helpu i gadw Cymru ar ei llwybr i ddyblu'r defnydd dyddiol o'r Gymraeg erbyn 2050.
I gefnogi ei Rhaglen Waith Cymraeg 2050, heddiw, mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi cyllid i gefnogi dysgwyr Cymraeg sy’n ymgymryd â throchi hwyr mewn ysgolion ac i ddatblygu sgiliau Cymraeg, ynghyd â helpu'r Eisteddfod Genedlaethol wrth i Gymru edrych ymlaen at groesawu’r Brifwyl yn ei hôl yn 2022.
Daw'r cyhoeddiad wrth i ganlyniadau'r Arolwg Defnydd Iaith ar gyfer 2019 i 2020 ddangos bod mwy na hanner (56%) y siaradwyr Cymraeg tair oed neu hŷn yn siarad ein hiaith bob dydd, i fyny o 53% yn 2013 i 2015.
Mae'r arolwg (sydd ar gael yma) hefyd yn dangos:
- Mae siaradwyr Cymraeg rhwng 3 a 15 oed yn fwy tebygol nag unrhyw grŵp oedran arall o siarad Cymraeg bob dydd, gydag ychydig dros ddwy ran o dair (67%) yn gwneud hynny
- Mae 45% o siaradwyr Cymraeg rhwng 16 a 29 oed bellach yn defnyddio eu Cymraeg bob dydd, sy’n gynnydd o bum pwynt canran ers yr arolwg diwethaf yn 2013 i 2015
- Mae bron i hanner y siaradwyr Cymraeg (48%) yn ystyried eu hunain yn rhugl yn y Gymraeg
- Roedd bron i ddau o bob tri siaradwr Cymraeg 16 oed neu hŷn fel arfer yn teimlo'n hyderus wrth siarad yr iaith (40% yn hyderus iawn, a 24% yn eithaf hyderus)
- Roedd 69% o siaradwyr Cymraeg yn cytuno â'r datganiad bod siarad Cymraeg yn rhan bwysig o bwy ydynt (roedd 49% yn cytuno'n gryf, ac roedd 20% yn tueddu i gytuno)
Trochi hwyr - £2.2m
Mae dysgu drwy drochi yn helpu disgyblion nad yw eu Cymraeg efallai wedi bod yn rhan o'u trefn ddyddiol, neu nad oes ganddynt sgiliau Cymraeg o bosibl, i'w defnyddio yn eu dysgu o ddydd i ddydd.
Gyda llawer o deuluoedd yn symud i Gymru ac yn edrych i leoli plant hŷn mewn addysg cyfrwng Cymraeg, mae mwy o bwysau bellach ar wasanaethau trochi i roi'r cymorth sydd ei angen arnynt fel y gallant symud yn hyderus i ddysgu drwy gyfrwng y Gymraeg.
Bydd yr arian hefyd yn cefnogi disgyblion mewn ysgolion cyfrwng Cymraeg a gollodd y cyfle, yn ystod y pandemig, i ddefnyddio eu Cymraeg bob dydd, ac y cafodd eu cysylltiad â'r iaith ei rwystro oherwydd y tarfu a achoswyd.
Mae ehangu'r rhaglen drochi hwyr yn un o'r ymrwymiadau a amlinellir yn Rhaglen Lywodraethu Llywodraeth Cymru, ac mae'n elfen bwysig yn ei chynllun i gynyddu nifer y dysgwyr sy'n cael eu haddysgu drwy gyfrwng y Gymraeg.
Yr Eisteddfod Genedlaethol - £200k
Byddwn yn darparu cyllid untro o £200,000 i'r Eisteddfod Genedlaethol, a fydd yn helpu i ailadeiladu lefelau staffio yn dilyn y pandemig.
Cynhelir Eisteddfodau Cenedlaethol 2022 a 2023 yng Ngheredigion ac ym Mhen Llŷn, yn y drefn honno.
Yn ogystal â helpu'r Eisteddfod i gynyddu staff, bydd yr arian hefyd yn cyfrannu at gynllun peilot a fydd yn sefydlu rhwydwaith o Lysgenhadon Diwylliant i gefnogi cynhwysiant cymunedol a chymdeithasol mewn ardaloedd lle cynhelir y digwyddiad blynyddol.
Dywedodd Jeremy Miles, Gweinidog y Gymraeg ac Addysg:
I helpu i gyflawni'r nodau ry’n ni wedi'u hamlinellu yn ein strategaeth 'Cymraeg 2050' yng ngoleuni'r pandemig, mae angen i ni sicrhau ein bod ni’n cefnogi sefydliadau allweddol sy'n gweithio i gynyddu'r defnydd o'n hiaith ni.
Rwy'n falch iawn ein bod ni wedi gallu rhoi cyllid adfer ar gyfer dysgu drwy drochi hwyr ac i'r Eisteddfod Genedlaethol. Mae'r rhain yn rhannau hanfodol o'n cynlluniau i helpu mwy ohonon ni i ddysgu a defnyddio'r Gymraeg.
Rwy’n falch hefyd o weld canlyniadau'r Arolwg Defnydd Iaith ar gyfer 2019 i 2020. Mae'r rhain yn rhoi un golwg defnyddiol, meintiol i ni ar sut ry’n ni’n defnyddio'r Gymraeg yng Nghymru.
Er bod tueddiadau cadarnhaol i’w gweld yn y data a bod angen dathlu’r rheini, wrth i ni barhau i weithredu Cymraeg 2050 byddwn ni’n edrych ar yr holl ystadegau a ffynonellau ymchwil sydd ar gael i ni i sicrhau ein bod ni’n seilio’n gwaith ar dystiolaeth, a bod y dystiolaeth honno’n gymorth i wybod beth sy'n gweithio neu beidio.
Mae'r cyllid ry’n ni wedi'i gyhoeddi heddiw yn rhan o'n strategaeth ar gyfer cynyddu'r defnydd o'r Gymraeg ledled Cymru yn ystod y deng mlynedd ar hugain nesa’. Rwy'n credu'n gryf bod y Gymraeg yn perthyn i ni i gyd, ac rwy'n benderfynol o helpu mwy a mwy ohonon ni i ddysgu’n hiaith ac i’w defnyddio.