Neidio i'r prif gynnwy

Bydd angen cyfrif Porth y Llywodraeth arnoch i fewngofnodi i Gynnig Gofal Plant Cymru.

Cyhoeddwyd gyntaf:
9 Medi 2022
Diweddarwyd ddiwethaf:

 chyfrif yn barod

Os oes gennych chi gyfrif Porth y Llywodraeth yn barod, gallwch chi fewngofnodi i ddefnyddio eich Dynodydd Defnyddiwr (ID) Porth y Llywodraeth a’ch Cyfrinair.  Byddai'r dynodydd defnyddiwr (ID) wedi cael ei e-bostio atoch chi pan wnaethoch chi greu’r cyfrif ac mae’n edrych fel hyn 60 53 49 86 21 77

Mae'r cyfrinair yn un y byddech wedi'i osod adeg cofrestru. 

Yna bydd gofyn i chi roi'ch cod mynediad.  Byddech chi wedi dewis derbyn hwn naill ai drwy neges destun, llais neu ap dilysu pan wnaethoch chi gofrestru ar y system.

Agor cyfrif newydd

Cofrestrwch ar gyfer dynodydd defnyddiwr (ID) a chyfrinair Porth y Llywodraeth fel rhan o’r broses o wneud cais am y Cynnig Gofal Plant neu gofrestru eich lleoliad. Pan fyddwch yn gwneud hyn, dilynwch y camau hyn i greu cyfrif:

  • dewiswch Creu manylion mewngofnodi
  • rhowch eich Cyfeiriad e-bost a dewiswch Parhau 
  • rhowch y cod cadarnhau a gafodd ei anfon i’ch cyfeiriad e-bost a dewiswch Parhau
  • rhowch eich enw llawn a dewiswch Parhau
  • rhowch Gyfrinair, yna’i roi eto yn Cadarnhau eich cyfrinair a dewiswch Parhau
  • gwnewch nodyn o'ch dynodydd defnyddiwr (ID) Porth y Llywodraeth a dewiswch Parhau

Dewiswch opsiwn o ran pa ddewis diogelwch ychwanegol yr hoffech chi ei sefydlu a sut rydych chi am gael eich cod mynediad

  • dewiswch Neges destun, Galwad llais neu Ap Dilysu ar gyfer ffonau clyfar neu dabled a dewiswch Parhau

Os ydych chi'n dewis yr opsiwn Neges destun :

  • dewiswch Iawn a dewiswch Parhau
  • rhowch Rif ffôn symudol yn y DU a dewiswch Anfon cod mynediad
  • rhowch y Cod mynediad sy’n cael ei ddangos yn y neges destun a dewiswch Parhau
  • rydych chi wedi sefydlu diogelwch ychwanegol, dewiswch Parhau

Os ydych chi'n dewis yr opsiwn Galwad llais :

  • rhowch Rif ffôn dilys yn y DU a dewiswch Ffoniwch fi
  • rhowch y Cod mynediad o’r alwad llais a dewiswch Parhau
  • rydych chi wedi sefydlu diogelwch ychwanegol, dewiswch Parhau

Os ydych chi’n dewis yr opsiwn Ap Dilysu ar gyfer ffonau clyfar neu dabled:

  • mae angen i chi fod ag ap dilysu ar eich dyfais, dewiswch Parhau
  • sefydlwch ap dilysu, dewiswch Parhau
  • rhowch y Cod mynediad sy’n cael ei ddangos yn yr ap dilysu a dewiswch Parhau
  • rhowch enw’r ap a dewiswch Parhau
  • rydych chi wedi sefydlu diogelwch ychwanegol, dewiswch Parhau

Rydych chi bellach wedi'ch sefydlu ar gyfer y system.

Yna byddwch yn cael eich tywys i sgrin Adfer Cyfrif sy’n rhaid ei chwblhau ar gyfer Cynnig Gofal Plant Cymru

Wedi anghofio eich cyfrinair

Os ydych chi wedi anghofio eich cyfrinair 

  • dewiswch Rydw i wedi anghofio fy nghyfrinair
  • rhowch eich Cyfeiriad e-bost a dewiswch Parhau
  • rhowch y cod cadarnhau a dewiswch Parhau
  • rhowch eich Dynodydd Defnyddiwr (ID) Porth y Llywodraeth a dewiswch Parhau
  • rhowch y Cod Cadarnhau a dewiswch Parhau
  • rhowch Gyfrinair, yna’i roi eto yn Cadarnhau eich cyfrinair a dewiswch Parhau
  • dewiswch yn ôl i fewngofnodi

Wedi anghofio eich enw defnyddiwr

  • dewiswch Rydw i wedi anghofio fy Nynodydd Defnyddiwr (ID) Porth y Llywodraeth
  • dewiswch Na, adfer fy ID a gwasgu Parhau
  • rhowch eich Cyfeiriad e-bost a dewiswch Parhau
  • rhowch y cod cadarnhau a dewiswch Parhau
  • rhowch eich Cyfrinair a dewiswch Parhau
  • rhowch y Cod Cadarnhau a dewiswch Parhau
  • Byddwch chi nawr yn cael dynodydd defnyddiwr (ID) newydd – gwnewch nodyn o'r rhif hwn. 
  • dewiswch Mynd yn ôl i fewngofnodi