Neidio i'r prif gynnwy

Ffigurau ar y cymorth i fyfyrwyr a ddyfernir i ymgeiswyr ac a delir i fyfyrwyr neu eu darparwr addysg uwch ar gyfer 2023 (dros dro).

Mae'r tudalen hwn yn darparu crynodeb o'r ystadegau a amlinellir yng nghyhoeddiad y Cwmni Benthyciadau Myfyrwyr (SLC) o’r enw Cymorth i Fyfyrwyr ar gyfer Addysg Uwch yng Nghymru 2022/23. Mae'r cyhoeddiad yn cynnwys ymgeiswyr a myfyrwyr sy'n hanu o Gymru sy'n dilyn cwrs addysg uwch (AU) dynodedig mewn coleg prifysgol neu addysg bellach (AB) yn y DU, yn ogystal ag ymgeiswyr a myfyrwyr yr UE (y tu allan i'r DU) sy'n dilyn cwrs dynodedig yng Nghymru.

Yn dilyn adolygiad Diamond o gyllid myfyrwyr Cymru, gwnaed newidiadau polisi yn 2018/19 a welodd grantiau ffioedd dysgu yn cael eu diddymu'n raddol a llai o symiau benthyciadau cynhaliaeth, wedi'u gwrthbwyso gan fwy o Grantiau Dysgu Llywodraeth Cymru (WGLG).

Prif ganlyniadau

  • Y swm a dalwyd i gefnogi myfyrwyr addysg uwch oedd £1.1 biliwn, gostyngiad o (3.1%) ers 2021/22.
  • Nifer y myfyrwyr a oedd yn derbyn cyllid oedd 80,400, i lawr 4.0% o 83,700 yn 2021/22.
  • Ers 2013/14 mae'r swm a dalwyd allan ar gyfer cyllid addysg uwch wedi cynyddu 70.1% o £671.6 miliwn, tra bo nifer y myfyrwyr sy’n cael cyllid wedi cynyddu 23.7% (o 65,000).

Cymorth i israddedigion ar gyfer ffioedd dysgu

  • Gostyngodd y cyfanswm a dalwyd allan am fenthyciadau ffioedd dysgu israddedigion amser llawn 4.5% ers y flwyddyn flaenorol, i £443.9 miliwn.

Cymorth cynhaliaeth i israddedigion

Gostyngodd nifer yr israddedigion amser llawn sy'n cael benthyciadau cynhaliaeth 3.9% i 54,300 o israddedigion. Cynyddodd y swm a dalwyd 4.9% o £323.7 miliwn yn 2021/22 i £339.5 miliwn yn 2022/23. Mae'r cynnydd yn y swm a dalwyd yn bennaf o ganlyniad i’r cynnydd yn uchafswm y benthyciad cynhaliaeth sydd ar gael o'i gymharu â blwyddyn academaidd 2021/22.

Dyfarnwyd cyfanswm o £197.0 miliwn mewn WGLG amser llawn, gostyngiad o 9.2% o'r £217.1 miliwn a ddyfarnwyd yn 2021/22.

Cymorth ôl-raddedig

  • Talwyd £59.2 miliwn mewn benthyciadau ôl-raddedig (gradd meistr a doethuriaeth), gostyngiad o 13.5%.
  • Talwyd £18.3 miliwn mewn grantiau ôl-raddedig (gradd meistr yn unig). Mae hyn yn ostyngiad o (16.5%) ers y llynedd (£22.0 miliwn).

Data cynnar yn y flwyddyn ar gyfer 2023/24

  • Mae data cynnar yn y flwyddyn ar gyfer 2023/24 yn dangos bod tua 69,500 o fyfyrwyr yn cael cyllid, gostyngiad bach o’i gymharu â’r 71,800 ar yr un pryd y llynedd.

Cyswllt

Dhilia Chiwara

Rydym yn croesawu gohebiaeth yn Gymraeg.

Cyfryngau

Rhif ffôn: 0300 025 8099

Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.