Neidio i'r prif gynnwy

Mae'r adroddiad yn cyflwyno ffigurau ar y cymorth i fyfyrwyr a ddyfernir i ymgeiswyr ac a delir i fyfyrwyr neu eu Darparwr Addysg Uwch ar gyfer Medi 2019 i Awst 2020.

Prif bwyntiau

Bu i’r swm a dalwyd i gefnogi myfyrwyr Addysg Uwch gyrraedd £1.01 biliwn ym Mlwyddyn Academaidd 2018/19, cynnydd o 6.2 % o £0.95 biliwn yn 2017/18. Gwelwyd hefyd gynnydd yn nifer y myfyrwyr oedd yn derbyn cyllid, gyda thua 77,600 o fyfyrwyr yn derbyn cyllid – cynnydd o 3.9% o 74,700 ym Mlwyddyn Academaidd 2017/18.

Yn gyffredinol, mae’r swm a wariwyd ar gyllid Addysg Uwch wedi cynyddu 50.6% (o ran yr arian gwirioneddol) ers Blwyddyn Academaidd 2013/14 (i fyny o £671.6 miliwn). Mae’r nifer o fyfyrwyr sydd wedi derbyn cyllid wedi cynyddu 19.5% (o 65,000).

Ym Mlwyddyn Academaidd 2018/19, gwelwyd cynnydd o 43.3% (i £320.5 miliwn, o £223.6 miliwn yn 2017/18) yng nghyfanswm y taliadau Benthyciad Ffioedd Dysgu i israddedigion llawn amser. Mae hyn yn ganlyniad uniongyrchol i ddod â Grantiau Ffioedd Dysgu i ben i fyfyrwyr newydd.

Mae’r swm gwirioneddol a delir mewn cefnogaeth Ffioedd Dysgu i ddarparwyr Addysg Uwch ar gyfer cyrsiau llawn amser wedi parhau’n gyson. Fodd bynnag, mae canran uwch o fenthyciadau yn y swm hwn bellach nag mewn blynyddoedd academaidd blaenorol.

Gwelwyd gostyngiad o 4.1% o’r flwyddyn flaenorol o ran taliadau Benthyciad Cynhaliaeth i israddedigion llawn amser, er bod nifer y myfyrwyr sy’n cymryd Benthyciadau Cynhaliaeth wedi aros yn weddol sefydlog (-0.6%). Gwelwyd cwymp yn swm y Benthyciadau Cynhaliaeth a dalwyd i fyfyrwyr llawn amser sy’n preswylio yng Nghymru, a hynny o £274.0 miliwn ym Mlwyddyn Academaidd 2017/18 i £262.9 miliwn yn 2018/19.

Mae hyn yn bennaf o ganlyniad i newid polisi yn 2018/19 yn dilyn Adolygiad Diamond o Gyllid Myfyrwyr Cymru. Gwelodd yr adolygiad cwymp yn symiau’r Benthyciad Cynhaliaeth, a hynny oherwydd y cynnydd a welwyd o ran Grantiau Dysgu Llywodraeth Cymru. Y prawf o hyn yw’r ffaith fod y swm a ddyfarnwyd yn 2018/19 fel Grantiau Dysgu Llywodraeth Cymru i israddedigion llawn amser 29.7% yn uwch na’r flwyddyn academaidd flaenorol.

Adroddiadau

Cyswllt

Llinell Ymholiadau Cyffredinol

Rhif ffôn: 0300 025 5050

Rydym yn croesawu galwadau a gohebiaeth yn Gymraeg.

Cyfryngau

Rhif ffôn: 0300 025 8099

Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.