Neidio i'r prif gynnwy

Mae'r adroddiad yn cyflwyno ffigurau ar y cymorth i fyfyrwyr a ddyfernir i ymgeiswyr ac a delir i fyfyrwyr neu eu Darparwr Addysg Uwch ar gyfer Medi 2018 i Awst 2019 (dros dro).

Canlyniadau allweddol ar gyfer 2017/18 (terfynol)

  • Nifer y myfyrwyr a dderbyniwyd cymorth yng Nghymru yn 2017/18 oedd 74,000.
  • Cyfanswm terfynol y cymorth i fyfyrwyr a ddyfarnwyd yn 2017/18 oedd £951.9m, cynnydd o 9% ar 2016/17.
  • Dyfarnwyd cyfanswm o £127.9 miliwn o Grant Dysgu Llywodraeth Cymru, sef yr un swm a ddyfarnwyd ar gyfer 2016/17.
  • Talwyd Benthyciadau Cynhaliaeth gwerth £274.0m i 57,400 o fyfyrwyr, o’i gymharu â’r £238.6m a dalwyd i 57,400 o fyfyrwyr yn 2016/17.
  • Talwyd Benthyciadau Ffioedd Dysgu gwerth £223.6m i Sefydliadau Addysg Uwch ar ran 57,100 o fyfyrwyr sy’n hanu o Gymru, a myfyrwyr sy’n hanu o’r UE ac yn astudio yng Nghymru.
  • Talwyd £268.0m o Grant Ffioedd Dysgu.
  • Talwyd gwerth £28.2 miliwn o fenthyciadau i ôl-raddedigion.

Canlyniadau allweddol ar gyfer 2018/19 erbyn diwedd mis Rhagfyr 2018 (dros dro)

  • Mae ffigurau cynnar yn dangos, erbyn diwedd mis Rhagfyr 2018, fod 72,900 o fyfyrwyr wedi’u talu £297.8 miliwn ar ffurf cymorth i fyfyrwyr. O’i gymharu â’r un cyfnod yn 2017, fe wnaeth cyfanswm y myfyrwyr a dalwyd gynyddu 5%.
  • Gellir priodoli’r cynnydd yn nifer y myfyrwyr a dalwyd yn bennaf i’r cynnydd yn nifer y myfyrwyr israddedig ac uwchraddedig rhan-amser. Bu cynnydd yn nifer y myfyrwyr israddedig rhan-amser o Gymru a gafodd ddyfarniad ariannol i 6,100 (i fyny 35%). Talwyd swm o £7.9 miliwn i’r myfyrwyr hyn hyd at ddiwedd mis Rhagfyr 2018.
  • Bu cynnydd yn nifer y myfyrwyr uwchraddedig rhan-amser o Gymru a gafodd ddyfarniad ariannol i 4,900 (i fyny 58%). Talwyd swm o £16.1miliwn i fyfyrwyr uwchraddedig hyd at ddiwedd mis Rhagfyr 2018.
  • Eleni dyfarnwyd Benthyciadau Doethurol am y tro cyntaf. Cafodd oddeutu 100 Fenthyciadau Doethurol oedd yn cyfateb i £0.2 miliwn erbyn diwedd mis Rhagfyr 2018. Mae’r myfyrwyr hynny wedi gofyn am daliadau ar gyfer 2018/19 sy’n cyfateb i gyfanswm o £0.6 miliwn am y flwyddyn.

Cyfraddau derbyn diweddaraf, ar gyfer blwyddyn academaidd 2016/17

  • Amcangyfrifir y gwnaeth 94.9% o fyfyrwyr cymwys godi Benthyciad Cynhaliaeth.
  • Amcangyfrifir y gwnaeth 95.2% o fyfyrwyr cymwys godi Benthyciad Ffioedd Dysgu.

Cyswllt

Llinell Ymholiadau Cyffredinol

Rhif ffôn: 0300 025 5050

Rydym yn croesawu galwadau a gohebiaeth yn Gymraeg.

Cyfryngau

Rhif ffôn: 0300 025 8099

Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.