Yn ôl ffigurau newydd sy’n cael eu cyhoeddi heddiw, rydyn ni wedi dileu i bob pwrpas yr arfer o werthu tai ar sail lesddaliad drwy’r cynllun Cymorth i Brynu.
Dywedodd Rebecca Evans:
“Ym mis Mawrth eleni fe newidiais i’r rheolau ynghylch cynllun benthyciad rhannu ecwiti Cymorth i Brynu – Cymru er mwyn cyfyngu ar ddefnyddio lesddaliadau oni bai y bo hynny’n gwbl angenrheidiol.
“Roedd modd i ni wneud hyn ddrwy weithio gyda’r prif adeiladwyr cartrefi. Fe wnaeth Taylor Wimpey, Bellway, Barratts, Redrow a Persommon yr ymrwymiad hefyd i beidio â chynnig tai i’w gwerthu ar lesddaliad mwyach oni bai y bo hynny’n gwbl angenrheidiol.
“Mae Cymorth i Brynu – Cymru ar gael i gefnogi pobl i brynu cartrefi newydd hyd at £300,000 drwy adeiladwr cofrestredig. Golyga hyn fod effaith lleihau’r defnydd diangen o lesddaliadau o dan y cynllun Cymorth i Brynu – Cymru wedi bod dipyn yn fwy. Ar sail adborth gan adeiladwyr tai, mae datblygwyr yn sicrhau bod cartrefi maen nhw’n eu marchnata yn bodloni meini prawf Cymorth i Brynu – Cymru, p’un ai a ydynt yn cael eu gwerthu drwy’r cynllun ai peidio.
“Yn ôl ffigurau newydd sy’n cael eu cyhoeddi heddiw, rydyn ni wedi dileu i bob pwrpas yr arfer o werthu tai ar sail lesddaliad drwy’r cynllun Cymorth i Brynu – Cymru. Mae’n dda gen i ddweud ein bod ni wedi gweithio gydag adeiladwyr ac wedi gwneud newidiadau positif i brynwyr cartrefi mewn llai na blwyddyn, heb fod angen deddfu.
“Rydw i am i bawb yng Nghymru sy’n prynu cartref lesddaliadol newydd wneud hynny ar delerau les teg, telerau sy’n rhoi diogelwch a hyder. I fynd â hyn ymhellach, rydyn ni’n gweithio gyda UK Finance i weld sut y gall yr arweiniad sy’n cael ei gynnig gan Gymorth i Brynu - Cymru arwain at newidiadau positif wrth adolygu lesddaliadau’n ehangach a chynnig diogelwch gwirioneddol a pharhaol i brynwyr.
“Mae gan bawb sy’n rhan o’r broses o brynu cartrefi gyfrifoldeb i ddiogelu defnyddwyr ac ailgodi’r hyder yn y farchnad. Mae’r camau rydw i wedi’u cymryd gyda’r cynllun Cymorth i Brynu – Cymru ac ymrwymiad y prif gwmnïau adeiladu tai yn dangos y gall hyn gael ei wneud yn syml a heb oedi. Edrychaf ymlaen at weithio gyda UK Finance wrth i ni barhau i wneud gwelliannau i bobl sydd am brynu cartref.”
Dywedodd John Marr, Pennaeth, Developed Government and Social Housing, UK Finance:
“Mae UK Finance a benthycwyr yn parhau i fod mewn cysylltiad â Llywodraeth y Deyrnas Unedig a Llywodraeth Cymru mewn perthynas â diwygio lesddaliadau. Mae’r ffigurau heddiw ar gyfer Cymorth i Brynu – Cymru yn dangos y potensial i newid a disgwyliwn i’r bobl hynny sy’n llunio polisïau ystyried hyn wrth benderfynu ar y ffordd orau o fynd ati i sicrhau tegwch i lesddeiliaid ledled Cymru a Lloegr. Mae gofynion cwmnïau sy’n rhoi benthyciadau mewn perthynas â lesddaliadau yn adlewyrchu safbwyntiau unigol cwmnïau a bydd y rhain yn parhau yng nghyd-destun unrhyw gyfyngiadau cyfreithiol ar delerau lesddaliadau.”