Neidio i'r prif gynnwy

1. Trosolwg

Rydym yn darparu Morgeisi Ecwiti i brynwyr cartrefi newydd (y “Cynllun”). Mae'r Cynllun yn cefnogi prynu cartrefi a brynwyd trwy adeiladwr sy’n cymryd rhan yn y cynllun sydd wedi'i gofrestru gyda ni. Am restr lawn o'r adeiladwyr sy'n cymryd rhan ewch i weld: Cymorth i Brynu - Cymru: adeiladwyr sy'n cymryd rhan | LLYW.CYMRU 

Sut mae'n gweithio

Gyda Chymorth i Brynu – Cymru:

  • mae’n rhaid i chi ddarparu blaendal o 5%.
  • mae'r Cynllun yn darparu Morgais Ecwiti o hyd at 20% o'r pris prynu
  • mae'n rhaid i chi gymryd morgais ad-dalu i dalu'r swm sy'n weddill

Enghraifft ariannol

Pris Prynu’r Eiddo £200,000
 SwmCanran
Blaendal arian parod£10,0005%
Benthyciad ecwiti a rennir£40,00020%
Eich morgais£150,00075%

Ansicr ai dyma'r cynllun ichi?

Defnyddiwch y chwiliwr i ddod o hyd i'r cynlluniau y gallwch chi fod yn gymwys i fanteisio arnyn nhw.