Yn y canllaw hwn
6. Bydd Cymal 3
Bydd Cymal 3 ar gael o fis Ebrill 2021 tan fis Mawrth 2022, ac mae’n bosibl y caiff ei ymestyn ymhellach tan fis Mawrth 2023, yn dibynnu ar y cyllid a fydd ar gael.
O fis Ebrill 2021, o dan Gymal 3, ni chaiff gwerth marchnad eiddo sy’n gymwys i’w werthu o dan gynllun Cymorth i Brynu – Cymru fod yn uwch na £250,000. Gall y rheini sy’n bodloni’r meini prawf fforddiadwyedd a’r telerau benthyca gael benthyciad ecwiti o hyd at 20% o bris gwerthu tŷ newydd sbon. Rhaid iddynt dalu o leiaf 80% o’r pris gwerthu, drwy gyfuniad o forgais ac o leiaf 5% o flaendal arian parod.
Bydd y manylion am sut i wneud cais am Gymal 3 ar gael maes o law.
Ni dderbynnir ceisiadau o dan y cynllun presennol, Cymal 2, ar ôl 5pm ar 31 Mawrth 2021 (yn dibynnu ar y cyllid a fydd ar gael). Er mwyn i eiddo fod yn gymwys i gael cyllid Cam 2 rhaid eu cwblhau'n ymarferol ac yn gyfreithiol erbyn 23 Rhagfyr 2021.