Neidio i'r prif gynnwy

1. Trosolwg

Mae Cymorth i Brynu – Cymru yn rhoi benthyciad ecwiti a rennir i'r rheini sy'n prynu eiddo a adeiladwyd o'r newydd. Mae'r cynllun yn rhoi cymorth i bobl brynu cartrefi sydd werth drwy adeiladwr sydd wedi cofrestru dan gynllun Cymorth i Brynu – Cymru.

Sut mae'n gweithio

I gael cymorth gan gynllun Cymorth i Brynu – Cymru:

  • mae’n rhaid bod gennych flaendal o 5% fan lleiaf
  • mae'r cynllun yn darparu benthyciad ecwiti a rennir o hyd at 20% o'r pris prynu
  • rhaid ichi gael morgais ad-dalu ar gyfer y swm sy'n weddill

Enghraifft ariannol

Ar gyfer eiddo sydd werth £200,000 Swm Canran
Blaendal arian parod £10,000 5%
Benthyciad ecwiti a rennir £40,000 20%
Eich morgais £150,000 75%

Ansicr ai dyma'r cynllun ichi?

Defnyddiwch y chwiliwr i ddod o hyd i'r cynlluniau y gallwch chi fod yn gymwys i fanteisio arnyn nhw.