Neidio i'r prif gynnwy

Data sy'n cynnwys gwybodaeth am y nifer o gartrefi a brynwyd a gwerth y benthyciadau a dderbyniwyd o dan cynllun ar gyfer Ionawr i Fawrth 2019.

Prif bwyntiau

  • Rhwng 2 Ionawr 2014 a 31 Mawrth 2019, cafodd 8,731 o gartrefi eu prynu gan ddefnyddio’r cynllun Cymorth i Brynu. Prynwyr tro cyntaf oedd 76% o’r rhain.
  • Cyfanswm gwerth y benthyciadau ecwiti dros y cyfnod hwn oedd £326.7 miliwn gyda gwerth y cartrefi a brynwyd yn dod i £1,649.5 miliwn.
  • Cynyddodd nifer y cartrefi a brynwyd yn flynyddol i uchafswm o 1,939 yn 2017-18 cyn gostwng 5% i 1,839 yn 2018-19.
  • Hyd yma, £188,925 oedd y pris cymedrig a dalwyd am y cartrefi a brynwyd ac roedd y canolrif ychydig yn is £182,995. Yn ystod 2018-19, £200,878 oedd y pris cymedrig a £196,995 y canolrif.
  • O’r cyfnod ers dechrau’r cynllun hyd at 31 Mawrth 2019, roedd bron tri chwarter (74%) o’r holl gartrefi a brynwyd gan aelwydydd lle roedd incwm y cartref rhwng £20,000 a £50,000.
  • Roedd dros hanner (52%) o’r holl gartrefi a brynwyd yn rhai tair ystafell wely ac roedd 47% ar gyfer aelwydydd 2 oedolyn a 2 blentyn.

Adroddiadau

Cymorth i Brynu - Cymru (Cynllun Benthyciad Ecwiti a Rennir), Ionawr i Fawrth 2019 , Saesneg yn unig, math o ffeil: PDF, maint ffeil: 1 MB

PDF
Saesneg yn unig
1 MB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.

Data

Setiau data ac adnoddau rhyngweithiol

Cyswllt

Llinell Ymholiadau Cyffredinol

Rhif ffôn: 0300 025 5050

Rydym yn croesawu galwadau a gohebiaeth yn Gymraeg.

Cyfryngau

Rhif ffôn: 0300 025 8099

Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.