Data am y nifer o gartrefi a brynwyd a gwerth y benthyciadau a dderbyniwyd o dan cynllun ar gyfer Hydref i Ragfyr 2022.
Nid y datganiad diweddaraf yn y gyfres: Cymorth i Brynu - Cymru (Cynllun Benthyciad Ecwiti a Rennir)
O 1 Ebrill 2021, mae uchafswm pris yr eiddo sydd ar gael drwy’r cynllun hwn wedi’i ostwng o £300,000 i £250,000.
Ers ei sefydlu ar 2 Ionawr 2014 i 31 Rhagfyr 2022, bu 13,560 cwblhau o dan Gymorth i Brynu Cymru. Roedd dros dri chwarter o’r rhai a gwblhawyd yn brynwyr tro cyntaf ac roedd dros hanner o’r rhai a gwblhawyd yn gartrefi 3 ystafell wely.
Prif bwyntiau
- Cafodd 147 o gartrefi eu prynu gan ddefnyddio benthyciadau rhannu ecwiti Llywodraeth Cymru.
- Rhwng 1 Hydref a 31 Rhagfyr 2022, cafodd 21 eiddo lesddaliadol eu prynu, a fflatiau oeddent i gyd.
- Ar 31 Rhagfyr 2022, roedd 162 o geisiadau am fenthyciadau heb gael eu prosesi yn llawn.
- Yn ystod y chwarter hwn, cyfanswm gwerth y cartrefi a brynwyd oedd £31.5 miliwn a chyfanswm gwerth y benthyciadau ecwiti oedd £6.2 miliwn.
- £214,438 oedd pris prynu cymedrig y cartrefi a brynwyd drwy’r cynllun yn ystod y chwarter hwn, a £42,113 oedd gwerth cymedrig y benthyciad ecwiti.
Nodyn
Casglwyd yr wybodaeth ar ran Llywodraeth Cymru gan Cymorth i Brynu - Cymru Cyf. Caiff gwybodaeth ar lefel llywodraeth leol ei chyhoeddi ar StatsCymru.
Cyswllt
Cyfryngau
Rhif ffôn: 0300 025 8099
Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.