Neidio i'r prif gynnwy

Data am y nifer o gartrefi a brynwyd a gwerth y benthyciadau a dderbyniwyd o dan cynllun ar gyfer Hydref i Ragfyr 2021.

O 1 Ebrill 2021, mae uchafswm pris yr eiddo sydd ar gael drwy’r cynllun hwn wedi’i ostwng o £300,000 i £250,000.

Prif bwyntiau

  • Rhwng 1 Hydref a 31 Rhagfyr 2021, cafodd 264 o gartrefi eu prynu gan ddefnyddio benthyciadau rhannu ecwiti Llywodraeth Cymru.
  • Daw hyn â’r cyfanswm o gartrefi a’u prynwyd o dan Cymorth i Brynu - Cymru i 13,072 ers ei gyflwyniad ar 2 Ionawr 2014.
  • Yn ystod y chwarter hwn, cyfanswm gwerth y cartrefi a brynwyd oedd £60.3 miliwn a chyfanswm gwerth y benthyciadau ecwiti oedd £11.8 miliwn.
  • Ar 31 Rhagfyr 2021, roedd 249 o geisiadau am fenthyciadau heb gael eu prosesi yn llawn.
  • £228,578 oedd pris prynu cymedrig y cartrefi a brynwyd drwy’r cynllun yn ystod y chwarter hwn, a £44,783 oedd  gwerth cymedrig y benthyciad ecwiti.
  • Rhwng 1 Hydref a 31 Rhagfyr 2021, cafodd 8 eiddo lesddaliadol eu prynu, a fflatiau oeddent i gyd. 
  • Prynwyr tro cyntaf oedd mwyafrif y bobl sydd wedi prynu drwy’r cynllun hyd yma, sy’n cynrychioli 76% o'r holl geisiadau a gwblhawyd.

Nodyn

Casglwyd yr wybodaeth ar ran Llywodraeth Cymru gan Cymorth i Brynu - Cymru Cyf. Caiff gwybodaeth ar lefel llywodraeth leol ei chyhoeddi ar StatsCymru.

Data

Setiau data ac adnoddau rhyngweithiol

Cyswllt

Llinell Ymholiadau Cyffredinol

Rhif ffôn: 0300 025 5050

Rydym yn croesawu galwadau a gohebiaeth yn Gymraeg.

Cyfryngau

Rhif ffôn: 0300 025 8099

Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.