Neidio i'r prif gynnwy

Data sy'n cynnwys gwybodaeth am y nifer o gartrefi a brynwyd a gwerth y benthyciadau a dderbyniwyd o dan cynllun ar gyfer Hydref i Ragfyr 2020.

Prif bwyntiau

  • Rhwng 1 Hydref a 31 Rhagfyr 2020, cafodd 600 o gartrefi eu prynu gan ddefnyddio benthyciadau rhannu ecwiti Llywodraeth Cymru.
  • Daw hyn â’r cyfanswm o gartrefi a’u prynwyd o dan Cymorth i Brynu – Cymru i 11,587 ers ei gyflwyniad ar 2 Ionawr 2014.
  • Yn ystod y chwarter hwn, cyfanswm gwerth y cartrefi a brynwyd oedd £131.7 miliwn a chyfanswm gwerth y benthyciadau ecwiti oedd £25.9 miliwn.
  • Ar 31 Rhagfyr 2020, roedd 916 o geisiadau am fenthyciadau heb gael eu prosesi yn llawn.
  • £219,578 oedd pris prynu cymedrig y cartrefi a brynwyd drwy’r cynllun yn ystod y chwarter hwn, a £43,125 oedd  gwerth cymedrig y benthyciad ecwiti.
  • Rhwng 1 Hydref a 31 Rhagfyr 2020, cafodd 41 eiddo lesddaliadol eu prynu, a fflatiau oeddent i gyd. 
  • Prynwyr tro cyntaf oedd mwyafrif y bobl sydd wedi prynu drwy’r cynllun hyd yma, sy’n cynrychioli 75% o'r holl geisiadau a gwblhawyd.

Nodyn

Casglwyd yr wybodaeth ar ran Llywodraeth Cymru gan Cymorth i Brynu - Cymru Cyf. Caiff gwybodaeth ar lefel llywodraeth leol ei chyhoeddi ar StatsCymru.

Data

Setiau data ac adnoddau rhyngweithiol

Cyswllt

Llinell Ymholiadau Cyffredinol

Rhif ffôn: 0300 025 5050

Rydym yn croesawu galwadau a gohebiaeth yn Gymraeg.

Cyfryngau

Rhif ffôn: 0300 025 8099

Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.