Neidio i'r prif gynnwy

Cyflwyniad

Prif bwyntiau

  • Ers ei sefydlu ar 2 Ionawr 2014 i 30 Medi 2024, cafodd 14,490 o gartrefi eu prynu o dan Gynllun Cymorth i Brynu Cymru. 
  • Roedd dros dri chwarter o’r rhain yn brynwyr tro cyntaf ac roedd dros hanner yn gartrefi 3 ystafell wely.
  • Rhwng 1 Gorffennaf a 30 Medi 2024, cafodd 112 o gartrefi eu prynu gan ddefnyddio benthyciadau rhannu ecwiti Llywodraeth Cymru.  
  • Rhwng 1 Gorffennaf a 30 Medi 2024, cafodd 3 eiddo lesddaliadol eu prynu, a fflatiau oeddent i gyd.  
  • Ar 30 Medi 2024, roedd 185 o geisiadau am fenthyciadau heb gael eu prosesi yn llawn. 
  • Yn ystod y chwarter hwn, cyfanswm gwerth y cartrefi a brynwyd oedd £28.3 miliwn a chyfanswm gwerth y benthyciadau ecwiti oedd £5.6 miliwn.
  • £252,371 oedd pris prynu cymedrig y cartrefi a brynwyd drwy’r cynllun yn ystod y chwarter hwn, a £50,000 oedd  gwerth cymedrig y benthyciad ecwiti. 

Nodyn

Casglwyd yr wybodaeth ar ran Llywodraeth Cymru gan Cymorth i Brynu - Cymru Cyf. Caiff gwybodaeth ar lefel llywodraeth leol ei chyhoeddi ar StatsCymru.

Manylion cyswllt

Ystadegydd: Craig McLeod
E-bost: ystadegau.tai@llyw.cymru

Cyfryngau: 0300 025 8099