Data am y nifer o gartrefi a brynwyd a gwerth y benthyciadau a dderbyniwyd o dan cynllun ar gyfer Gorffennaf i Medi 2023.
Nid y datganiad diweddaraf yn y gyfres: Cymorth i Brynu - Cymru (Cynllun Benthyciad Ecwiti a Rennir)
Ym mis Rhagfyr 2022 cyhoeddodd y Gweinidog Newid Hinsawdd y byddai'r cynllun yng Nghymru yn parhau tan fis Mawrth 2025 gyda phob cartref sy'n cael ei werthu drwy'r cynllun angen bodloni o leiaf EPC (Tystysgrif Perfformiad Ynni) B a'r cap prisiau prynu yn codi o £250,000 i £300,000.
Ers ei sefydlu ar 2 Ionawr 2014 i 30 Medi 2023, bu 13,871 cwblhau o dan Gymorth i Brynu Cymru. Roedd dros dri chwarter o’r rhai a gwblhawyd yn brynwyr tro cyntaf ac roedd dros hanner o’r rhai a gwblhawyd yn gartrefi 3 ystafell wely.
Prif bwyntiau
- Cafodd 102 o gartrefi eu prynu gan ddefnyddio benthyciadau rhannu ecwiti Llywodraeth Cymru.
- Rhwng 1 Gorffennaf a 30 Medi 2023, cafodd 5 eiddo lesddaliadol eu prynu, a fflatiau oeddent i gyd.
- Ar 30 Medi 2023, roedd 196 o geisiadau am fenthyciadau heb gael eu prosesi yn llawn.
- Yn ystod y chwarter hwn, cyfanswm gwerth y cartrefi a brynwyd oedd £25.0 miliwn a chyfanswm gwerth y benthyciadau ecwiti oedd £5.0 miliwn.
- £245,548 oedd pris prynu cymedrig y cartrefi a brynwyd drwy’r cynllun yn ystod y chwarter hwn, a £49,040 oedd gwerth cymedrig y benthyciad ecwiti.
Nodyn
Casglwyd yr wybodaeth ar ran Llywodraeth Cymru gan Cymorth i Brynu - Cymru Cyf. Caiff gwybodaeth ar lefel llywodraeth leol ei chyhoeddi ar StatsCymru.
Cyswllt
Cyfryngau
Rhif ffôn: 0300 025 8099
Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.