Neidio i'r prif gynnwy

Data am y nifer o gartrefi a brynwyd a gwerth y benthyciadau a dderbyniwyd o dan cynllun ar gyfer Gorffennaf i Fedi 2022.

O 1 Ebrill 2021, mae uchafswm pris yr eiddo sydd ar gael drwy’r cynllun hwn wedi’i ostwng o £300,000 i £250,000.

Ers ei sefydlu ar 2 Ionawr 2014 i 30 Medi 2022, bu 13,405 cwblhau o dan Gymorth i Brynu Cymru. Roedd dros dri chwarter o’r rhai a gwblhawyd yn brynwyr tro cyntaf ac roedd dros hanner o’r rhai a gwblhawyd yn gartrefi 3 ystafell wely.

Prif bwyntiau

  • Cafodd 78 o gartrefi eu prynu gan ddefnyddio benthyciadau rhannu ecwiti Llywodraeth Cymru.  
  • Rhwng 1 Gorffennaf a 30 Medi 2022, cafodd 5 eiddo lesddaliadol eu prynu, a fflatiau oeddent i gyd. 
  • Ar 30 Medi 2022, roedd 258 o geisiadau am fenthyciadau heb gael eu prosesi yn llawn.
  • Yn ystod y chwarter hwn, cyfanswm gwerth y cartrefi a brynwyd oedd £17.5 miliwn a chyfanswm gwerth y benthyciadau ecwiti oedd £3.4 miliwn.
  • £224,543 oedd pris prynu cymedrig y cartrefi a brynwyd drwy’r cynllun yn ystod y chwarter hwn, a £44,082 oedd  gwerth cymedrig y benthyciad ecwiti.

Nodyn

Casglwyd yr wybodaeth ar ran Llywodraeth Cymru gan Cymorth i Brynu - Cymru Cyf. Caiff gwybodaeth ar lefel llywodraeth leol ei chyhoeddi ar StatsCymru.

Data

Setiau data ac adnoddau rhyngweithiol

Cyswllt

Craig Mcleod

Rydym yn croesawu gohebiaeth yn Gymraeg.

Cyfryngau

Rhif ffôn: 0300 025 8099

Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.