Neidio i'r prif gynnwy

Data am y nifer o gartrefi a brynwyd a gwerth y benthyciadau a dderbyniwyd o dan cynllun ar gyfer Gorffennaf i Fedi 2021.

O 1 Ebrill 2021, mae uchafswm pris yr eiddo sydd ar gael drwy’r cynllun hwn wedi’i ostwng o £300,000 i £250,000.

Prif bwyntiau

  • Rhwng 1 Gorffennaf a 30 Medi 2021, cafodd 314 o gartrefi eu prynu gan ddefnyddio benthyciadau rhannu ecwiti Llywodraeth Cymru.
  • Daw hyn â’r cyfanswm o gartrefi a’u prynwyd o dan Cymorth i Brynu – Cymru i 12,804 ers ei gyflwyniad ar 2 Ionawr 2014.
  • Yn ystod y chwarter hwn, cyfanswm gwerth y cartrefi a brynwyd oedd £71.2 miliwn a chyfanswm gwerth y benthyciadau ecwiti oedd £13.8 miliwn.
  • Ar 30 Medi 2021, roedd 439 o geisiadau am fenthyciadau heb gael eu prosesi yn llawn.
  • £226,726 oedd pris prynu cymedrig y cartrefi a brynwyd drwy’r cynllun yn ystod y chwarter hwn, a £44,080 oedd  gwerth cymedrig y benthyciad ecwiti.
  • Rhwng 1 Gorffennaf a 30 Medi 2021, cafodd 14 eiddo lesddaliadol eu prynu, a fflatiau oeddent i gyd. 
  • Prynwyr tro cyntaf oedd mwyafrif y bobl sydd wedi prynu drwy’r cynllun hyd yma, sy’n cynrychioli 76% o'r holl geisiadau a gwblhawyd.

Nodyn

Casglwyd yr wybodaeth ar ran Llywodraeth Cymru gan Cymorth i Brynu - Cymru Cyf. Caiff gwybodaeth ar lefel llywodraeth leol ei chyhoeddi ar StatsCymru.

Data

Setiau data ac adnoddau rhyngweithiol

Cyswllt

Llinell Ymholiadau Cyffredinol

Rhif ffôn: 0300 025 5050

Rydym yn croesawu galwadau a gohebiaeth yn Gymraeg.

Cyfryngau

Rhif ffôn: 0300 025 8099

Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.