Neidio i'r prif gynnwy

Data sy'n cynnwys gwybodaeth am y nifer o gartrefi a brynwyd a gwerth y benthyciadau a dderbyniwyd o dan cynllun ar gyfer Gorffennaf i Fedi 2018.

Prif bwyntiau

  • Rhwng 1 Gorffennaf a 30 Medi 2018, cafodd 402 o gartrefi eu prynu gan ddefnyddio benthyciadau ecwiti a rennir Llywodraeth Cymru. Daw hyn â’r cyfanswm o gartrefi a’u prynwyd o dan Cymorth i Brynu-Cymru i 7,806  ers ei gyflwyniad ar 2 Ionawr 2014.
  • Ar 30 Medi 2018, roedd 811 o geisiadau am fenthyciadau heb gael eu prosesi.
  • Rhwng 1 Gorffennaf a 30 Medi 2018, cyfanswm gwerth y benthyciadau ecwiti yma oedd £16.2 miliwn. Gwerth y cartrefi a brynwyd oedd £81.7 miliwn.
  • £209,474 oedd pris prynu cymedrig y cartrefi a brynwyd trwy’r cynllun yn ystod y chwarter, a £41,561 oedd  gwerth cymedrig y benthyciad ecwiti.
  • Rhwng 1 Gorffennaf a 30 Medi 2018, cafodd 8 anedd eiddo prydlesol eu prynu. O’r rhain, roedd 3 yn dai,sydd yn sylweddol is na’r 25 yn y cyfnod cyfatebol y flwyddyn gynt.
  • Prynwyr tro cyntaf oedd mwyafrif y bobl a  brynodd trwy’r cynllun hyd yma,, sy’n cynrychioli 75% o'r holl gartrefi a gwblhawyd.

Nodi

Casglwyd y wybodaeth ar ran Llywodraeth Cymru gan Cymorth i Brynu (Cymru) Cyf.

Data

Setiau data ac adnoddau rhyngweithiol

Cyswllt

Llinell Ymholiadau Cyffredinol

Rhif ffôn: 0300 025 5050

Rydym yn croesawu galwadau a gohebiaeth yn Gymraeg.

Cyfryngau

Rhif ffôn: 0300 025 8099

Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.