Neidio i'r prif gynnwy

Cyflwyniad

Ym mis Rhagfyr 2022 cyhoeddodd y Gweinidog Newid Hinsawdd y byddai'r cynllun yng Nghymru yn parhau tan fis Mawrth 2025 gyda phob cartref sy'n cael ei werthu drwy'r cynllun angen bodloni o leiaf EPC (Tystysgrif Perfformiad Ynni) B a'r cap prisiau prynu yn codi o £250,000 i £300,000.

Ers ei sefydlu ar 2 Ionawr 2014 i 30 Mehefin 2024, cafodd 14,350 o gartrefi eu prynu o dan Gynllun Cymorth i Brynu Cymru. Roedd dros dri chwarter o’r rhain yn brynwyr tro cyntaf ac roedd dros hanner yn gartrefi 3 ystafell wely.

Prif bwyntiau

  • Rhwng 1 Ebrill a 30 Mehefin 2024, cafodd 182 o gartrefi eu prynu gan ddefnyddio benthyciadau rhannu ecwiti Llywodraeth Cymru.
  • Rhwng 1 Ebrill a 30 Mehefin 2024, cafodd 12 eiddo lesddaliadol eu prynu, a fflatiau oeddent i gyd. 
  • Ar 30 Mehefin 2024, roedd 178 o geisiadau am fenthyciadau heb gael eu prosesi yn llawn.
  • Yn ystod y chwarter hwn, cyfanswm gwerth y cartrefi a brynwyd oedd £46.4 miliwn a chyfanswm gwerth y benthyciadau ecwiti oedd £9.2 miliwn.
  • £255,001 oedd pris prynu cymedrig y cartrefi a brynwyd drwy’r cynllun yn ystod y chwarter hwn, a £50,000 oedd gwerth cymedrig y benthyciad ecwiti.

Nodyn

Casglwyd yr wybodaeth ar ran Llywodraeth Cymru gan Cymorth i Brynu - Cymru Cyf. Caiff gwybodaeth ar lefel llywodraeth leol ei chyhoeddi ar StatsCymru.

Manylion cyswllt

Ystadegydd: Craig McLeod
E-bost: ystadegau.tai@llyw.cymru

Cyfryngau: 0300 025 8099