Neidio i'r prif gynnwy

Data am y nifer o gartrefi a brynwyd a gwerth y benthyciadau a dderbyniwyd o dan cynllun ar gyfer Ebrill 2019 i Fawrth 2020.

Prif bwyntiau

  • Rhwng 2 Ionawr 2014 a 31 Mawrth 2020, cafodd 10,481 o gartrefi eu prynu gan ddefnyddio’r cynllun Cymorth i Brynu – Cymru.  Prynwyr tro cyntaf oedd 76 y cant o’r rhain.
  • Cyfanswm gwerth y benthyciadau ecwiti dros y cyfnod hwn oedd £399.1 miliwn gyda gwerth y cartrefi a brynwyd yn dod i £2,015.5 miliwn.
  • Prynwyd cyfanswm o 1,749 o gartrefi yn defnyddio cynllun Cymorth i Brynu – Cymru yn 2019-20.
  • Hyd yn hyn, y pris prynu cymedrig a dalwyd am yr holl bryniannau a gwblhawyd oedd £192,296 tra bo’r canolrif yn is, sef £185,995.
  • Yn ystod 2019-20, y pris prynu cymedrig a dalwyd oedd £209,162 a £207,995 oedd y canolrif.
  • Ers cychwyn y cynllun a hyd at 31 Mawrth 2020, aelwydydd ag incwm o rhwng £20,000 a £50,000 ar gyfartaledd sy’n gyfrifol am bron i dri chwarter (74%) o’r holl bryniannau a gwblhawyd
  • Hyd yma, mae dros hanner (53%) o’r holl eiddo a brynwyd wedi bod yn eiddo â thair ystafell wely, ac roedd 46% yn aelwydydd yn cynnwys 2 oedolyn a dim plant.

Nodyn

Casglwyd y wybodaeth ar ran Llywodraeth Cymru gan Gymorth i Brynu (Cymru) Cyf. Mae data misol yn cael eu cyhoeddi ar StatsCymru Mae'r wybodaeth a gyhoeddir ar StatsCymru yn cynnwys data ar lefel awdurdod lleol.

Adroddiadau

Cymorth i Brynu - Cymru (Cynllun Benthyciad Ecwiti a Rennir): Ebrill 2019 i Fawrth 2020 , Saesneg yn unig, math o ffeil: PDF, maint ffeil: 1 MB

PDF
Saesneg yn unig
1 MB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.

Data

Setiau data ac adnoddau rhyngweithiol

Cyswllt

Llinell Ymholiadau Cyffredinol

Rhif ffôn: 0300 025 5050

Rydym yn croesawu galwadau a gohebiaeth yn Gymraeg.

Cyfryngau

Rhif ffôn: 0300 025 8099

Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.