Neidio i'r prif gynnwy

Mae’r Ysgrifennydd Iechyd, Vaughan Gething, wedi cyhoeddi cyllid o £1.7m ar gyfer prosiect yng Nghwm Tawe a fydd yn datblygu modelau newydd ar gyfer iechyd a gofal cymdeithasol.

Cyhoeddwyd gyntaf:
24 Hydref 2018
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Daw’r cyllid o’r Gronfa Trawsnewid, sy’n werth £100m, a hynny er mwyn hybu’r camau gweithredu allweddol a nodwyd yn Cymru Iachach - cynllun hirdymor Llywodraeth Cymru ar gyfer iechyd a gofal cymdeithasol.

Bydd prosiect Clwstwr Cwm Tawe, a ddatblygwyd gan Fwrdd Partneriaeth Rhanbarthol Gorllewin Cymru, yn cael £1.731m dros ddwy flynedd i ddatblygu ffyrdd newydd o weithio, gan integreiddio iechyd a gofal cymdeithasol yn well. Yna bydd modd ehangu ar y syniadau gorau a’u cyflwyno drwy Gymru.Mae tri phrif nod i’r prosiect:

  • Gwella llesiant unigolion o bob oed, gan ganolbwyntio’n arbennig ar sicrhau bod plant yn cael y dechrau gorau yn eu bywydau er mwyn bod mor iach â phosibl 
  • Cydlynu gwasanaethau er mwyn sicrhau’r llesiant, yr annibyniaeth a’r gofal gorau posibl i bobl yn nes at eu cartrefi. Canolbwyntir yn arbennig ar bobl hŷn, gan ddatblygu modelau gofal newydd yn nes at eu cartrefi a lleihau’r nifer sy’n cael eu derbyn i’r ysbyty heb i hynny fod wedi’i drefnu
  • Profi a gwerthuso’r modelau gofal y gellid eu cyflwyno drwy Gymru.
Dyma rai o’r dulliau gweithio newydd sydd wedi dechrau’n barod:

  • Hyb Cymunedol Clydach, sy’n galluogi pobl i gael gafael ar holl wasanaethau Cyngor Abertawe drwy borth digidol o fis Hydref 2018 ymlaen. Gellir cael gafael ar wasanaethau sefydliadau eraill sy’n bartneriaid hefyd, yn ddigidol neu drwy wirfoddolwyr.
  • Tîm iechyd a gofal cymdeithasol integredig sy’n gwasanaethu clwstwr Cwm Tawe, wedi’i leoli yn Ysbyty Gorseinon a Chanolfan Gofal Sylfaenol Clydach.
  • Gweithwyr newydd i gydgysylltu iechyd a gofal cymdeithasol.
  • Apwyntiadau â meddygon teulu yr un dydd a system TG newydd i roi mynediad at gofnodion cleifion y tu allan i’r feddygfa.
Dywedodd Mr Gething: 

“Mae ein cynllun hirdymor ar gyfer iechyd a gofal cymdeithasol yn nodi sut y byddwn yn trawsnewid ein dull o ddarparu gofal, er mwyn sicrhau ei fod yn gynaliadwy yn y dyfodol.

“Bydd hyn yn gofyn am well integreiddio rhwng iechyd a gwasanaethau cymdeithasol er mwyn lleihau’r ddibyniaeth ar ysbytai a darparu gofal yn nes at gartrefi pobl. Bydd y Gronfa Trawsnewid yn cael ei defnyddio i ariannu nifer fach o brosiectau a fydd yn cael yr effaith fwyaf o ran datblygu a chyflenwi modelau gofal newydd, ac sydd â’r potensial i gael eu hehangu er mwyn eu defnyddio drwy Gymru.

“Mae gan Glwstwr Cwm Tawe hanes cryf eisoes o gydweithio a meddwl yn arloesol. Rwy’n edrych ymlaen at weld canlyniadau’r ffyrdd newydd hyn o weithio.”

Dywedodd arweinydd Clwstwr Cwm Tawe: Dr Iestyn Davies:

“Rydyn ni yng Nghwm Tawe wrth ein boddau â’r cyhoeddiad cyffrous hwn. Bydd y buddsoddiad o gymorth mawr wrth inni ailstrwythuro a moderneiddio’r ffordd rydym yn cynnig gofal i gleifion.

“Rydyn ni’n falch iawn fod Llywodraeth Cymru yn cydnabod ein gweledigaeth ar gyfer gofal sylfaenol sy’n canolbwyntio ar gleifion, gan roi pwyslais cryf ar gefnogi ein cymunedau a gweithio gyda nhw i gadw pobl yn iach - yn hytrach na dim ond eu trin pan fyddant yn sâl.”

“Bydd y buddsoddiad hwn yn ein galluogi i ehangu ein timau amlddisgyblaethol, a bydd hynny’n rhoi gwell cyfle i gleifion weld ystod eang o weithwyr iechyd proffesiynol yn eu cymuned. Bydd hefyd yn dod â rhai gwasanaethau sydd wedi bod yn cael eu cynnig mewn ysbytai yn nes at gartrefi pobl.”