Mae'r adroddiad hwn yn cyflwyno canfyddiadau ymchwil a wnaed gan grŵp o ymchwilwyr i ystyried sut y gellid gwella cymorth yn y dyfodol i blant yr effeithir arnynt gan riant yn y carchar yng Nghymru.
Y cyhoeddiad diweddaraf
Amcanion yr ymchwil hon oedd ystyried pa arferion sy'n bodoli i roi cymorth i blant yng Nghymru sydd â rhiant yn y carchar, i ba raddau y maent yn cynrychioli arfer da a beth fyddai angen ei ystyried wrth geisio datblygu model cymorth cenedlaethol. Roedd gan yr ymchwil ddiddordeb arbennig yn y rôl y gallai ysgolion ei chwarae i gefnogi plant sydd â rhiant yn y carchar.
Trefnwyd canfyddiadau'r ymchwil o amgylch naw prif thema:
- Dull hawliau plant seiliedig ar gryfderau
- Polisi ac adnoddau
- Mynediad canolog at wybodaeth ac adnoddau
- Gwaith aml-asiantaethol
- Hyfforddiant
- Nodi plant mewn modd sensitif
- Cynnwys pob plentyn
- Diogelu
- Monitro a gwerthuso
Dylid ystyried y themâu hyn wrth ddatblygu cefnogaeth ar draws Cymru gyfan yn y dyfodol.
Adroddiadau

Gwella deilliannau llesiant ac addysgol i blant yng Nghymru y mae carchariad rhiant yn effeithio arnynt: astudiaeth gwmpasu , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 3 MB

Gwella deilliannau llesiant ac addysgol i blant yng Nghymru y mae carchariad rhiant yn effeithio arnynt: adolygiadau o lenyddiaeth, polisi ac ymarfer , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 1 MB
Cyswllt
Tom Cartwright
Rydym yn croesawu gohebiaeth yn Gymraeg.
Cyfryngau
Rhif ffôn: 03000 025 8099
Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.