Neidio i'r prif gynnwy

Gwasanaethau sy’n cynnig cymorth a chyngor iechyd a llesiant am ddim.

Cyhoeddwyd gyntaf:
18 Tachwedd 2022
Diweddarwyd ddiwethaf:

Iechyd meddwl a llesiant

Llinell Gymorth C.A.L.L.

Mae Llinell Gymorth C.A.L.L. yn linell gymorth iechyd meddwl benodol. Mae'n darparu cymorth cyfrinachol i'ch helpu i ddod o hyd i gymorth sydd ar gael yn eich ardal leol. Mae hyn yn cynnwys sefydliadau gwirfoddol ac elusennol.

Cael help gan y Llinell Gymorth C.A.L.L.

Rhif ffôn: 0800 132 737 neu tecstiwch 'help' i 81066

Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.

Byw heb Ofn

Mae Byw heb Ofn yn rhoi cyngor defnyddiol, cyfrinachol sy’n hawdd cael gafael arno i unrhyw un sy’n dioddef neu wedi goroesi trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol – ac i’r rheini sy’n agos atynt, gan gynnwys aelodau o’r teulu, ffrindiau a chydweithwyr – ar amrywiaeth o faterion a all fod yn berthnasol i’w sefyllfa. Mae ar agor 24/7, yn rhad ac am ddim ac ni fydd yn ymddangos ar filiau ffôn.

Cael help gan Byw heb Ofn

Rhif ffôn: 0808 80 10 800 neu tecstiwch 07860 077333

Rydym yn croesawu galwadau a gohebiaeth yn Gymraeg.

Gallwch hefyd ddefnyddio'r gwasanaeth sgwrsio byw ar-lein.

Cymorth i bobl hŷn

Cyngor Age Cymru

Mae Cyngor Age Cymru yn cynnig gwasanaeth cymorth cyfrinachol a diduedd am ddim. Gall helpu pobl hŷn, eu teuluoedd, eu ffrindiau, eu gofalwyr a gweithwyr proffesiynol i gael gwybodaeth a chyngor ar faterion sy’n effeithio ar bobl hŷn.

Cael help gan Gyngor Age Cymru

Rhif ffôn: 0300 303 398 (9:00yb i 4:00yp, dydd Llun i ddydd Gwener)

Rydym yn croesawu galwadau a gohebiaeth yn Gymraeg.

Care and Repair

 

Mae Care and Repair yn darparu gwybodaeth, cyngor a gwasanaethau ymarferol sy’n helpu pobl hŷn yng Nghymru i aros yn ddiogel, yn gynnes ac yn iach gartref. Maent yn gosod cymhorthion ac addasiadau anabledd, yn darparu gwasanaethau cynnal a chadw cartrefi, yn helpu i sicrhau’r incwm mwyaf a grantiau mynediad, ac yn gwneud cartrefi’n ddiogel i ddychwelyd o’r ysbyty.

Hyd yn oed os credwch nad ydych fel arfer yn gymwys i gael cymorth ariannol, gallech fod yn gymwys i gael rhywfaint o help gyda chostau byw o ddydd i ddydd.

Cael help gan Care and Repair

Rhif ffôn: 0300 111 3333

Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.