Neidio i'r prif gynnwy

Gwiriwch a allwch gael help gyda chostau gofal iechyd y GIG, fel profion llygaid, sbectol a thriniaeth ddeintyddol.

Os ydych chi wedi cofrestru gyda meddyg teulu yng Nghymru, mae gennych chi hawl i gael presgripsiynau am ddim gan fferyllydd yng Nghymru.

Efallai y byddwch hefyd yn gallu cael triniaeth ddeintyddol am ddim, profion llygaid a chymorth gyda chostau eraill y GIG.

Y pethau canlynol fydd yn penderfynu a allwch gael cymorth gyda chostau eraill y GIG:

  • eich oedran
  • eich incwm
  • a ydych chi’n cael budd-daliadau penodol
  • a ydych chi’n feichiog
  • a oes gennych chi gyflwr meddygol

Defnyddiwch y gwasanaeth hwn i wirio pa gymorth y gallech chi ei gael a sut i wneud cais.

Mae fel arfer yn cymryd 5 munud i wirio hyn.

Ar wefan y GIG (Saesneg yn unig).