Neidio i'r prif gynnwy

Gan nad yw'r DU bellach yn rhan o'r UE nid yw rheolau cymorth Gwladwriaethol yn berthnasol mwyach ac eithrio o dan amgylchiadau penodol iawn.

Cyhoeddwyd gyntaf:
17 Ionawr 2023
Diweddarwyd ddiwethaf:

Beth yw cymorth Gwladwriaethol?

Unrhyw fantais a roddir gan gorff cyhoeddus drwy adnoddau gwladwriaethol ar sail ddethol i unrhyw sefydliadau a allai o bosibl wyrdroi cystadleuaeth a masnach yn yr Undeb Ewropeaidd (UE) yw cymorth Gwladwriaethol.

Mae'r diffiniad o gymorth Gwladwriaethol yn eang oherwydd gall 'mantais' fod ar sawl ffurf. Mae'n unrhyw beth na allai 'ymgymeriad' (sefydliad sy'n ymgymryd â gweithgarwch economaidd) ei gael yn y farchnad agored. Weithiau gall cymorth Gwladwriaethol roi mantais i fusnesau ar draul eu cystadleuwyr. Drwy reoli cymorth Gwladwriaethol gall y Comisiwn Ewropeaidd sicrhau bod busnesau ar draws yr UE yn cael chwarae teg.

Nid yw’r DU bellach yn rhan o'r UE. Nid yw rheolau cymorth Gwladwriaethol yn berthnasol mwyach ac eithrio o dan amgylchiadau penodol iawn. Mae’r rhain yn cynnwys dosbarthu cyllid gwaddol yr UE a phan allai cymhorthdal effeithio ar Brotocol Gogledd Iwerddon. Os ydych yn credu y gallai eich cymhorthdal fod o dan y naill neu'r llall o'r amgylchiadau hyn, neu os ydych yn ansicr, cysylltwch â'r Uned Rheoli Cymorthdaliadau (YrUnedRheoliCymorthdaliadau@llyw.cymru).

Adnabod cymorth Gwladwriaethol

Pan roddir cymorth gan gorff cyhoeddus i ymgymeriad sy'n ymwneud â gweithgarwch economaidd mae 5 prawf i’w cymhwyso.

  • A yw'r cymorth yn cael ei roi gan y wladwriaeth neu drwy adnoddau'r wladwriaeth?
  • A yw'r cymorth yn rhoi mantais na fyddai'r ymgymeriad yn ei chael fel arall?
  • A yw'r cymorth yn ddethol (yn mynd i rai ymgymeriadau yn hytrach nag eraill)?
  • A yw'r cymorth yn gwyrdroi, neu'n bygwth gwyrdroi, cystadleuaeth?
  • A yw'r cymorth yn effeithio ar fasnach rhwng aelod-wladwriaethau'r UE?

Os ydych wedi ateb ‘nac ydy’ i unrhyw un neu ragor o’r cwestiynau, yna mae’n annhebygol mai cymorth Gwladwriaethol yw’r cymorth. Bydd angen ichi gadw cofnod o sut y gwnaethoch eich penderfyniad am 10 mlynedd rhag ofn y bydd y Comisiwn Ewropeaidd yn penderfynu ymchwilio. Os ydych wedi ateb ‘ydy’ i bob un o’r cwestiynau, mae’n debygol mai cymorth Gwladwriaethol yw’r cymorth.

Eithriadau o gymorth Gwladwriaethol

Mae'r Comisiwn Ewropeaidd yn derbyn y gallai fod angen i Wladwriaethau ymyrryd mewn busnes weithiau. Mae rheolau cymorth Gwladwriaethol yn darparu rhai eithriadau pan gaiff awdurdodau cyhoeddus ddyfarnu cymorth, gan gynnwys:

  • Cynlluniau hysbysedig
  • de minimis
  • cynlluniau’r rheoliad eithriad bloc cyffredinol (GBER)
  • gwasanaethau o fudd economaidd cyffredinol (SGEI)
  • rheoliadau llorweddol a sectoraidd

Cynlluniau GBER Llywodraeth Cymru

Gellir defnyddio'r cynlluniau hyn ar gyfer dosbarthu cronfeydd strwythurol yr UE yn unig. 

Gofyniad tryloywder cynlluniau GBER

O 1 Gorffennaf 2016 mae’r rheoliad eithriad bloc cyffredinol (GBER) yn ei gwneud yn ofynnol rhoi manylion unrhyw gymorth unigol a ddarperir sy'n werth €500,000 neu fwy i'r Comisiwn Ewropeaidd gan ddefnyddio ei system adrodd ar-lein. Bydd y Comisiwn Ewropeaidd yn cyhoeddi’r manylion mewn cronfa ddata sydd ar gael i'r cyhoedd.

Bydd yr Uned Rheoli Cymorthdaliadau yn cydgysylltu’r broses, ond bydd disgwyl i'r rhai sy'n darparu cymorth roi gwybod i’r Uned Rheoli Cymorthdaliadau pan fydd dyfarniad o €500,000 neu fwy wedi cael ei wneud, cyn pen mis ar ôl i’r cymorth gael ei ddarparu.

Beth y bydd angen inni ei wybod

I gael y gyfradd drosi gywir, cofiwch roi dyddiad y dyfarniad yn y cyfrifiannell.

  • Enw'r sefydliad sy'n cael cymorth.
  • Cod adnabod y sefydliad – sef ei rif TAW UE, fel arfer. Os nad oes gan y sefydliad rif o’r fath, rhowch ei rif cofrestru cwmni neu elusen neu ei rif cofrestru academaidd. Os nad yw’r un o'r rhain ar gael, cysylltwch â'r Uned Reoli Cymorthdaliadau (YrUnedRheoliCymorthdaliadau@llyw.cymru) i gadarnhau beth fyddai’n god adnabod priodol.
  • Maint y sefydliad – h.y. bach, canolig neu fawr.
  • Y rhanbarth lle mae’r sefydliad wedi’i leoli (lefel NUTS 2)


    Mae Gorllewin Cymru a'r Cymoedd UKL1 yn cynnwys:

    • Ynys Môn (UKL11)
    • Gwynedd (UKL12)
    • Conwy a Sir Ddinbych (UKL13)
    • De-orllewin Cymru (UKL14)
    • Y Cymoedd Canolog (UKL15)
    • Cymoedd Gwent (UKL16)
    • Pen-y-bont ar Ogwr a Chastell-nedd Port Talbot (UKL17)
    • Abertawe (UKL18)


    Mae Dwyrain Cymru UKL2 yn cynnwys:

    • Sir Fynwy a Chasnewydd (UKL21)
    • Caerdydd a Bro Morgannwg (UKL22)
    • Sir y Fflint a Wrecsam (UKL23)
    • Powys (UKL24)


    Rhestr lawn o ranbarthau NUTS 2

  • Cod NACE y sefydliad – mae codau NACE yn cael eu defnyddio ar gyfer dosbarthiad ystadegol gweithgareddau economaidd yn y gymuned Ewropeaidd


    Rhestr lawn o godau NACE

  • Swm y cymorth (mewn punnoedd sterling) – cyfrifwch werth mewn Ewros (€) unrhyw gymorth a roddir mewn punnoedd sterling (£) drwy droswr arian cyfred y Comisiwn Ewropeaidd. I gael y gyfradd drosi gywir, cofiwch roi dyddiad y dyfarniad yn y cyfrifiannell.
  • Math o gymorth – gallai fod yn:
    • Grant neu gymhorthdal cyfradd llog
    • Benthyciad
    • Rhagdaliadau ad-daladwy neu grant ad-daladwy
    • Gwarant
    • Mantais neu eithriad treth
    • Cyllid risg
  • Dyddiad rhoi’r cymorth
  • Amcan y cymorth – Ar gyfer beth y bydd yn cael ei ddefnyddio? Beth ydych chi'n gobeithio ei gyflawni drwy roi'r cymorth?
  • Yr awdurdod sy’n rhoi’r cymorth
  • Cyfeiriad ar gyfer y mesur cymorth a ddefnyddir

Cymorth de minimis

Mae’r rheoliad de minimis yn cwmpasu symiau o gymorth sydd, ym marn y Comisiwn Ewropeaidd, yn rhy fach i effeithio ar gystadleuaeth. Mae’n caniatáu cymorth o dan €200,000 dros gyfnod o 3 blynedd (y flwyddyn gyllidol bresennol a’r ddwy flwyddyn gyllidol ddiwethaf).

Rhagor o wybodaeth am gynnal cynllun cymorth de minimis.

Cynlluniau Hysbysedig Llywodraeth Cymru