Mae Gweinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru, Ken Skates, wedi datgelu bod gwerth bron i £65m o geisiadau bellach wedi cael eu prosesu gan Gronfa Cadernid Economaidd Llywodraeth Cymru.
Cafodd cymaint â 9,500 o hawliadau eu cyflwyno o fewn ychydig llai nag wythnos.
Mae’r ffigurau diweddaraf yn dangos bod dros 4,000 o fusnesau, elusennau a mentrau cymdeithasol eisoes wedi cael cynnig neu wedi derbyn cymorth ariannol gan y gronfa.
Mae staff a chontractwyr Llywodraeth Cymru yn parhau i brosesu’r ceisiadau, gan sicrhau bod busnesau’n derbyn yr arian cyn gynted â phosibl. Bydd busnesau sydd wedi cyflwyno cais yn derbyn neges mor fuan â phosibl ac nid oes angen iddynt gymryd unrhyw gamau pellach.
Yn sgil y galw uchel am arian gan y Gronfa cafodd ei hail gam ei atal ar 27 Ebrill er mwyn rhoi cyfle i’r Gweinidogion ystyried pa gymorth arall sydd ei angen ar fusnesau, elusennau a mentrau cymdeithasol a phryd y bydd angen y cymorth hwnnw arnynt.
Mae’r Gronfa Cadernid Economaidd, sy’n rhan o becyn cymorth gwerth £1.7 biliwn Llywodraeth Cymru, yn cynnig cymorth ariannol sylweddol sy’n ychwanegol at y cymorth sydd ar gael gan gynlluniau sydd eisoes wedi’u lansio gan Lywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru.
Dywedodd Gweinidog yr Economi. Trafnidiaeth a Gogledd Cymru, Ken Skates:
“Rydym yn ymwybodol o’r ffaith bod angen cymorth ar frys gan y Llywodraeth ar fusnesau ar adeg mor heriol.
“Mae’r Gronfa Cadernid Economaidd yn cynnig cymorth allweddol i fusnesau, ac yn arbennig y busnesau micro, bach a chanolig sydd wrth wraidd ein heconomi. Mae’r cymorth hwn lawer yn fwy na’r hyn sydd ar gael i fusnesau yn Lloegr.”
“Mae’r galw am gymorth gan y cam hwn o’r gronfa wedi bod yn ddigynsail. Er y bydd miloedd o fusnesau yng Nghymru yn elwa arni rydym wedi pwysleisio’r ffaith na fydd modd cynnig cymorth i bawb. O’r herwydd gwnaethom benderfynu atal y gronfa dros dro ac asesu’r ceisiadau a oedd eisoes wedi’u cyflwyno, gan bwyso a mesur pa gymorth arall y gallwn ei gynnig.
“Mae’r cyfnod hwn yn parhau’n gyfnod heriol iawn i fusnesau Cymru a’r economi gyfan, ond hoffwn bwysleisio’r ffaith bod Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i wneud popeth posibl sydd o fewn ei phwerau a’i hadnoddau i gefnogi cwmnïau a helpu i adfer ein heconomi gan gyflawni’r lefelau twf a oedd yn bodoli cyn y pandemig.”
Dywedodd Phil Murphy o Wise Procurement Limited, yn Ninas Powys, Bro Morgannwg:
“Nid oedd modd i ni fanteisio ar gynllun benthyciadau tarfu ar fusnes Llywodraeth y DU ac roeddem yn teimlo nad oedd cymorth ar gael i ni.
“Gwych oedd clywed y newyddion am Gronfa Cadernid Economaidd Llywodraeth Cymru. Rydym yn ddiolchgar iawn am y cymorth ac rydym yn hyderus y bydd y cyllid yn helpu ein busnes i wynebu’r argyfwng hwn, gan fynd o nerth i nerth.”
Dywedodd Simon Blackham o Anglesey Safety Training:
“Mae’r cymorth hwn yn golygu bod modd i ni bellach barhau i fasnachu. Bydd yn fy ngalluogi i aros ar gau am y dyfodol agos gan ailagor ym mis Medi. Rwy’ mor ddiolchgar.”
Dywedodd Lee Stephens, o Hiab and Plant Transport UK Ltd, Yr Eglwys Newydd, Caerdydd:
“Rwy’ mor falch fod fy nghais wedi’i dderbyn. Bydd yr arian yma’n helpu i ddiogelu dyfodol fy musnes a bydd yn rhoi heddwch meddwl i fi ar adeg mor anodd.”
Dywedodd Samantha Tilston, o Tilston Training Limited yn Llai, Wrecsam:
“Mae’r arian yma wedi ein helpu i sicrhau y bydd haul ar fryn, ac mae’n bosibl mai hyn fydd yn achub y cwmni.”