Mae'r adroddiad hwn yn edrych ar gymorth gan rieni gyda llythrennedd a rhifedd ar gyfer Ebrill 2014 i Mawrth 2015.
Y cyhoeddiad diweddaraf
Prif bwyntiau
- Roedd 81% o'r rhieni oedd â phlentyn 3 i 7 oed yn helpu'r plentyn o leiaf sawl gwaith yr wythnos i ddarllen ac ysgrifennu.
- Roedd 69% o'r rhieni yn helpu eu plentyn 3 i 7 oed o leiaf sawl gwaith yr wythnos gyda mathemateg neu rifau.
- Roedd 76% yn hyderus iawn yn helpu eu plentyn 3 i 11 oed i ysgrifennu yn Saesneg; roedd 79% yn hyderus iawn yn helpu eu plentyn i ddarllen yn Saesneg.
- Roedd 69% yn hyderus iawn yn helpu eu plentyn 3 i 11 oed gyda mathemateg neu rifau.
- Roedd 56% o'r siaradwyr Cymraeg yn hyderus iawn yn eu gallu eu hunain i ddarllen Cymraeg
- Roedd 50% yn hyderus iawn yn eu gallu eu hunain i ysgrifennu yn Gymraeg er mwyn medru helpu eu plentyn 3 i 11 oed i ddarllen ac ysgrifennu yn Gymraeg.
Adroddiadau
Cymorth gan rieni gyda llythrennedd a rhifedd (Arolwg Cenedlaethol Cymru), Ebrill 2014 i Mawrth 2015 , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 735 KB
PDF
735 KB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.
Cyswllt
Llinell Ymholiadau Cyffredinol
Rhif ffôn: 0300 025 5050
E-bost: arolygon@llyw.cymru
Rydym yn croesawu galwadau a gohebiaeth yn Gymraeg.
Cyfryngau
Rhif ffôn: 0300 025 8099
Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.