Neidio i'r prif gynnwy

Mae gwaith adfer mawr ar Bont Gludo Casnewydd wedi cael y golau gwyrdd heddiw diolch i gyllid gan Lywodraeth Cymru.

Cyhoeddwyd gyntaf:
17 Mawrth 2021
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Mae'r Gweinidog Cyllid, Rebecca Evans, wedi cadarnhau y bydd Llywodraeth Cymru yn darparu cyllid cyfalaf gwerth £1.5 miliwn fel rhan o Gyllideb 2021–22 –  arian sydd ei angen er mwyn dechrau’r gwaith arfaethedig.

Mae’r prosiect £11.9 miliwn yn cael ei gyflawni ar y cyd â Chyngor Dinas Casnewydd a Chronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol. Bydd yn ariannu gwaith adnewyddu mawr ar y bont a datblygu canolfan ymwelwyr newydd yn ne-ddwyrain Cymru.

O ganlyniad i’r miliynau sy’n cael eu gwario ar y gwaith adnewyddu, rhagwelir y bydd mwy na 46,000 o ymwelwyr yn cael eu denu bob blwyddyn, a bydd y gymuned leol yn cael ei hannog i ailgysylltu â'i threftadaeth a'i diwylliant. Bydd cyfleoedd ar gyfer ymweliadau addysgol, teithiau tywys a heriau dringo, yn ogystal â chynlluniau i ddefnyddio caffi a chyfleusterau'r bont ar gyfer cyfarfodydd, priodasau a digwyddiadau cymunedol ar raddfa fach i helpu i greu twf yn yr economi leol.

Dywedodd y Gweinidog Cyllid, Rebecca Evans:

"Ar ôl blwyddyn o ansicrwydd ar gyfer y sector treftadaeth oherwydd COVID-19, mae'r cyllid rydyn ni’n ei gyhoeddi heddiw yn newyddion i'w groesawu ar gyfer y diwydiant.

"Nid yn unig y mae gan y gwaith o adfer y bont gludo a datblygu canolfan ymwelwyr newydd y potensial i greu cyfleoedd gwaith newydd i bobl leol, mae hefyd yn helpu i roi Casnewydd ar y map fel cyrchfan i ymwelwyr, gan ddod â manteision economaidd ehangach i dde-ddwyrain Cymru."

Ychwanegodd Dafydd Elis-Thomas, y Dirprwy Weinidog Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth:

"Mae'r bont gludo yn un o eiconau Casnewydd ac yn rhan sylweddol o dreftadaeth ddiwydiannol Cymru.

"Mae angen inni wneud popeth yn ein gallu i rannu a chadw hanes ein treftadaeth ddiwydiannol ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol, ac rwy'n falch iawn y bydd y prosiect diweddaraf hwn yn cael ei ychwanegu at y rhestr o atyniadau treftadaeth Cymru."