Neidio i'r prif gynnwy

Bydd Llywodraeth Cymru yn parhau i ariannu y gwasanaeth bws pwysig rhif 5 o Wrecsam i Langollen yn 2019-20, yn ôl cyhoeddiad gan Ken Skates, y Gweinidog Trafnidiaeth.

Cyhoeddwyd gyntaf:
25 Mehefin 2019
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Golyga hyn y bydd y gwasanaeth rheolaidd hwn yn parhau am y flwyddyn nesaf, ac yn parhau i aros mewn lleoedd penodol, megis Gorsaf Reilffordd Tre Ioan a Rhiwabon.

Bydd Llywodraeth Cymru yn cydweithio â Chyngor Sir Ddinbych i gytuno ar y trefniadau angenrheidiol.

Daw y newyddion wedi i Ken Skates gyhoeddi yn ddiweddar y bydd cyllid o £25 miliwn o Grant Cymorth ar gyfer Gwasanaethau Bysiau i awdurdodau lleol yng Nghymru ar gyfer 2019-20. Mae'r cyllid hwn yn ychwanegu at wariant awdurdodau lleol o'u cyllidebau eu hunain er mwyn cefnogi rhwydweithiau trafnidiaeth gymunedol a bws yn eu hardaloedd.

Mae Papur Gwyn Llywodraeth Cymru, Gwella Trafnidiaeth Gyhoeddus, hefyd yn anelu at wella gwasanaethau bws a darparu deddfwriaeth fydd yn helpu i gynnig gwasanaeth trafnidiaeth sydd wedi integreiddio yn llawn.  

Meddai Ken Skates, y Gweinidog Trafnidiaeth:

"Mae gwasanaeth bysiau effeithiol a dibynadwy yn hollbwysig i sawl cymuned ac rwyf wedi clywed eisoes pa mor fuddiol yw rhif 5 i bobl leol.

"Dwi'n falch y bydd Llywodraeth Cymru yn parhau i gefnogi'r gwasanaeth hwn sy'n hollbwysig i gysylltu cymunedau ar y llwybr hwn o Wrecsam i Langollen.

 “Rydyn ni'n gwybod bod gwasanaethau bysiau yn sicrhau mynediad pwysig at addysg, hyfforddiant, gwaith, gofal iechyd ac yn syml at gyfleoedd i fwynhau mynd allan am y dydd. Dwi'n gobeithio y bydd cyhoeddiad heddiw yn dod â chysur i'r rhai sy'n ei defnyddio'r gwasanaeth o wybod y gallant barhau i elwa ar y gwasanaeth hwn.

"Fel llywodraeth, rydyn ni wedi ymrwymo'n llawn i sicrhau dyfodol iach i drafnidiaeth gyhoeddus. Mae gan awdurdodau lleol rôl hanfodol i'w chwarae wrth ddarparu gwasanaeth bysiau cynaliadwy er budd y gymuned leol, a byddwn yn parhau i gydweithio'n agos â hwy a'r diwydiant bysiau i sicrhau bod buddiannau ac anghenion teithwyr yn dod gyntaf."

Meddai Michael Morton, Rheolwr Gyfarwyddwr Bysiau Arriva Cymru:

"Mae parhau â'r cyllid ar gyfer y gwasanaeth pwysig hwn yn rhoi gwarant y gallwn barhau i redeg y Gwasanaeth Sapphire Rhif 5 yr un mor aml o Wrecsam i Langollen. Mae Bysiau Arriva Cymru yn falch o weld bod Llywodraeth Cymru yn ystyried hwn yn wasanaeth pwysig iawn yn y rhan hyfryd hwn o Ogledd Cymru, fydd yn parhau i gynnig gwasanaeth bws o safon uchel Sapphire  i bobl leol ac i dwristiaid."

Meddai Prif Aelod o Gabinet Sir Ddinbych dros Wastraff, Trafnidiaeth a'r Amgylchedd, y Cynghorydd Brian Jones:

"Rydyn ni'n falch iawn o glywed y newyddion o gyllid ychwanegol am yr ail flwyddyn i wella y gwasanaeth bws yn Llangollen.

"Mae'r cyllid hwn yn sicrhau bod y dref a'i phreswylwyr a nifer o ymwelwyr yn parhau i elwa o wasanaeth bws gwell na fyddai ar gael fel arall, a bod hyn yn bodloni'r galw am wasanaethau trafnidiaeth gyhoeddus lleol yn ardal Llangollen. Yn ystod yr wythnos, bydd y cyllid yn caniatáu i'r gwasanaeth barhau oddeutu bob hanner awr yn ystod y dydd. 

"Mae'r Cyngor yn rhoi cymhorthdal hefyd i'r gwasanaeth bws gyda'r nos a dwi'n siŵr y bydd y datblygiadau hyn yn cael ymateb positif yn y gymuned leol."