Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth, Ken Skates, wedi cyhoeddi y bydd Awdurdodau Lleol yn cael £2.5 miliwn o arian Llywodraeth Cymru tuag at y costau o ddelio â’r eira diweddar.
Arweiniodd y tywydd eithafol at gostau cyfalaf a refeniw ychwanegol i awdurdodau lleol. Bydd cyhoeddiad heddiw yn golygu bod arian yn cael ei neilltuo i dalu am ran o’r costau hyn gan gynnwys costau awdurdodau priffyrdd ar gyfer graeanu a chlirio eira a phrynu halen.
Er mai’r awdurdodau lleol sy’n gyfrifol am gynllunio ar gyfer digwyddiadau sylweddol sy’n ymwneud â’r tywydd, a bod disgwyl iddynt glustnodi arian yn unol â hynny, mae Llywodraeth Cymru yn buddsoddi arian ychwanegol i gydnabod y costau sylweddol.
Dywedodd yr Ysgrifennydd dros yr Economi a Thrafnidiaeth, Ken Skates:
“Wrth i lawer o’r wlad gael tomenni o eira yn ddiweddar, roedd staff a chontractwyr yr awdurdodau yn gweithio’n galed iawn i helpu’r cyhoedd sy’n teithio a sicrhau bod ein rhwydwaith ffyrdd yn aros ar agor gymaint â phosib. Roedden nhw mor broffesiynol ac ymroddedig ag erioed a hoffwn i ddiolch iddyn nhw unwaith eto am eu hymdrechion.
“Cafodd y tywydd eithafol effaith, fodd bynnag, ac roedd canlyniadau ariannol yn anochel. Felly, dw i wrth fy modd y bydd yr arian dw i’n ei gyhoeddi heddiw yn rhoi hwb i helpu i dalu am y costau sylweddol y mae awdurdodau lleol wedi eu hwynebu o ganlyniad i’r tywydd.”
Dywedodd y Cynghorydd Andrew Morgan (Rhondda Cynon Taf), Llefarydd Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru dros Drafnidiaeth, yr Amgylchedd a Chynaliadwyedd:
“Dw i’n croesawu’r arian hwn gan Lywodraeth Cymru i gydnabod y costau sylweddol mae awdurdodau wedi eu hwynebu wrth ymateb i’r tywydd eithafol diweddar. Er y bydd pob cyngor wedi cynllunio ymhell ymlaen llaw ar gyfer digwyddiad o’r fath, roedd y ffaith bod y tywydd mor arw yn golygu nad oedd modd osgoi costau ychwanegol.”
“Dw i’n hynod falch o ymdrechion y cynghorau ledled Cymru, gyda’u staff yn gwneud llawer mwy na’r disgwyl i helpu trigolion yn eu cymunedau. Roedd ymdrechion ein staff yn dangos gwasanaeth cwsmeriaid ar ei orau, a gwir gwerth llywodraeth leol.”