Neidio i'r prif gynnwy

Mae’r Gwasanaeth Cymorth yn y Gwaith yn darparu cymorth a hyfforddiant i helpu pobl a busnesau i wella llesiant yn y gweithle.

  • cymorth i helpu pobl cyflogedig a hunangyflogedig i reoli eu cyflwr iechyd a naill ai dychwelyd i’r gwaith neu aros yn y gwaith
  • mae hyfforddiant a chymorth hefyd ar gael i helpu busnesau i wella llesiant yn y gweithle

Mae’r Gwasanaeth Cymorth yn y Gwaith yn cynnig cymorth therapiwtig cyfrinachol am ddim os ydych chi’n gyflogedig neu’n hunangyflogedig ac:

  • yn absennol o’ch gwaith oherwydd salwch, bydd yn eich helpu i ddychwelyd i’r gwaith
  • yn dal i weithio ond yn cael anhawster oherwydd eich cyflwr iechyd, bydd yn eich helpu i aros yn y gwaith

Mae hyfforddiant a chymorth ar gael am ddim i fusnesau i helpu i wella llesiant eu gweithwyr yn y gweithle. 

De a de-ddwyrain Cymru  

Os ydych chi’n byw ym:

  • Mlaenau Gwent
  • Pen-y-bont ar Ogwr
  • Caerffili
  • Casnewydd
  • Merthyr Tudful
  • Sir Fynwy
  • Rhondda Cynon Taf
  • Torfaen

neu os yw eich busnes wedi’i leoli yn un o’r ardaloedd hynny, cysylltwch â Case UK.

Rhif ffôn: 02921 676213

Gogledd, de-orllewin a gorllewin Cymru 

Os ydych chi’n byw yn:

  • Ynys Môn
  • Sir Gaerfyrddin
  • Ceredigion
  • Conwy
  • Sir Ddinbych
  • Sir y Fflint
  • Gwynedd
  • Castell-nedd Port Talbot
  • Sir Benfro
  • Abertawe
  • Wrecsam

Neu os yw eich busnes wedi’i leoli yn un o’r ardaloedd hynny, cysylltwch â Strategaeth Dinas y Rhyl.

Rhif ffôn: 01745 336442

E-bost: hello@rcs-wales.co.uk

Canolbarth Cymru 

Os ydych chi’n byw ym Mhowys, neu os yw eich busnes wedi’i leoli yn yr ardal honno, cysylltwch â Mind canolbarth a gogledd Powys.

Rhif ffôn: 01597 824411

E-bost: admin@iwsspowys.org.uk