Neidio i'r prif gynnwy

Heddiw mae Alun Davies wedi cyhoeddi y bydd Cyngor Ynys Môn yn cael £374,000 i’w helpu wrth iddo fynd ati i atgyweirio’r difrod a achoswyd gan lifogydd sydyn y llynedd.

Cyhoeddwyd gyntaf:
20 Chwefror 2018
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Ym mis Tachwedd cafwyd llifogydd ar draws Ynys Môn yn dilyn glaw trwm a chyson, a chafodd ffyrdd, llwybrau, strwythurau ac adeiladau eu difrodi. 

Bu swyddogion yr awdurdod lleol yn gwneud gwaith brys ar y pryd i sicrhau bod y trigolion yn ddiogel. Cafodd nifer o bobl Llangefni eu symud o’u tai ac mae’r gwaith atgyweirio yn dal ar y gweill. 

Cysylltodd y cyngor â Llywodraeth Cymru i ofyn am gymorth ariannol brys i helpu â’r gwaith glanhau a’r atgyweiriadau brys. 

Dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus, Alun Davies:

“Rwy’n falch ein bod wedi gallu darparu’r cymorth yma i Gyngor Sir Ynys Môn i’w helpu â’r costau atgyweirio a achoswyd gan y tywydd anarferol hwn.”

Yr ardal a ddioddefodd waethaf oedd yr A545 rhwng Porthaethwy a Biwmares, lle cafwyd tirlithriad ar ôl i lif y dŵr olchi’r arglawdd sy’n cynnal y briffordd wrth ymyl y Fenai i ffwrdd. Achosodd y dŵr ddifrod pellach i ganllaw pont ym Mrynsiencyn ac i waliau cynnal ar yr A5025. 

Difrodwyd y system draenio dŵr wyneb mewn sawl man ledled yr ynys, ac arweiniodd hynny at waith atgyweirio sylweddol i leihau’r perygl o lifogydd pellach mewn eiddo.