Neidio i'r prif gynnwy

Cynllun Costau Safonol EMFF – Telerau ac Amodau Gwerth Ychwanegol

Cyflawniad

Mae'r Telerau ac Amodau Grant ar gyfer Cynllun Costau Safonol EMFF – Gwerth Ychwanegol wedi'u nodi isod.  Darllenwch y Telerau ac Amodau cyn i chi dderbyn y Contract.

Bydd Gweinidogion Cymru yn cynnig contract Gwerth Ychwanegol Cynllun Costau Safonol EMFF yn ddarostyngedig i'r amodau canlynol bob amser:

  1. Rhaid derbyn y contract grant a ddyfarnwyd drwy'r botwm glas ar-lein RPW o fewn 30 diwrnod i ddyddiad llythyr cynnig y contract.
  2. Gwneir y cynnig Contract ar sail datganiadau a wneir gennych chi neu'ch cynrychiolwyr yn y ffurflen gais a gohebiaeth ddilynol.

Daw'r Gronfa EMFF o dan amrywiaeth o ddeddfwriaeth. Rhaid i Lywodraeth Cymru a’r ymgeisydd/derbynnydd weithredu yn unol â’r ddeddfwriaeth honno.

1. Telerau ac amodau'r grant

  1. Fel arfer, ni fydd y cyfnod mwyaf ar gyfer y prosiect hwn yn fwy na 120 diwrnod o'r Cynnig o Gontract
  2. Mae’r grant yn cael ei gynnig ar sail y datganiadau a wnaed gennych chi neu’ch cynrychiolwyr ar y ffurflen gais ac mewn gohebiaeth ddilynol.

Mae’n drosedd gwneud datganiadau anwir neu gamarweiniol.

  1. Ni ddylech brynu unrhyw eitemau y gwneir cais amdanynt cyn i'ch contract gael ei gynnig. 
  2. Ni allwch newid yr eitemau rydych wedi'u dewis ar ôl i'ch contract gael ei gyhoeddi.
  3. Mae'n rhaid i chi brynu'r holl eitemau sydd wedi'u cynnwys yn eich contract. 
  4. Mae'n RHAID ichi wneud un cais am bob un o'r eitemau ar yr un pryd. 
  5. Rhaid cyflwyno ceisiadau drwy ffurflen gais ar-lein RPW a'u cefnogi gan yr holl dystiolaeth ddogfennol fel sy'n ofynnol gan y cynllun.
  6. Rhaid i chi fodloni unrhyw rwymedigaethau cyfreithiol o dan gyfraith y DU a’r UE, gan gynnwys deddfwriaeth hylendid. 
  7. Ni chaniateir gwneud unrhyw newid i’r prosiect, heb gymeradwyaeth ysgrifenedig Llywodraeth Cymru
  8. Ni chewch waredu, trosglwyddo na gwerthu unrhyw offer a brynir gyda chymorth y grant heb gael cydsyniad ysgrifenedig ymlaen llaw gan Lywodraeth Cymru, am bum mlynedd o ddyddiad y buddsoddiad. Mae hyn yn cynnwys newidiadau anuniongyrchol e.e. pan fydd cwch yn newid perchennog neu pan fydd lleoliad unrhyw eitem sydd wedi'i ariannu yn newid.
  9. Eich cyfrifoldeb chi fel yr ymgeisydd gwreiddiol yw hysbysu'r perchnogion newydd o'r ymrwymiadau cyllid sy'n gysylltiedig â'r eitem. Bydd yn ofynnol i'r perchnogion newydd dderbyn telerau ac amodau y cyllid am yr amser sy'n weddill hyd at 5 mlynedd o'r dyddiad y cafodd y cynnig gwreiddiol ei dderbyn.
  10. Os nad yw perchennog newydd yr eitem neu'r eitemau yn derbyn telerau ac amodau y cyllid sy'n gysylltiedig, yna ystyrir nad yw'r eitem wedi cyflawni ei rwymedigaethau i'r cynllun ac felly mae'n bosibl y bydd gweithdrefnau adfer yn dechrau a'r cyllid yn cael ei adfer gennych fel yr ymgeisydd gwreiddiol. 

Mae’n rhaid i chi gydymffurfio â’r gofynion a nodir yn y Cynllun Contract.

  1. Rhaid cyflwyno anfonebau ategol a thystiolaeth o daliad i gefnogi eich cais a thrwy eich cyfrif RPW Ar-lein.
  2. Rhaid cyflwyno'r hawliad heb fod yn hwyrach na'r dyddiad a nodir yn y Contract. Os nad yw’r hawliad cyntaf yn cael ei wneud o fewn y cyfnod hwn, bydd y cynnig grant yn cael ei derfynu’n awtomatig.
  3. Mae’n ofynnol i’r ymgeisydd gydymffurfio â’r rheolau ynghylch gwariant cymwys, yn unol â’r Nodyn yng Nghanllawiau’r Cynllun.
  4. Trwy dderbyn y contract, rydych yn cadarnhau na cheisiwyd unrhyw gyllid cyhoeddus arall (boed o ffynonellau'r UE neu'r DU) am yr un costau.
  5. Dylid cwblhau prosiectau o fewn yr amserlen y cytunwyd arni gyda Llywodraeth Cymru.  Ni chewch newid hyn heb gytundeb ysgrifenedig Lywodraeth Cymru.
  6. Rhaid i chi gadarnhau nad oes unrhyw rai o'r eitemau sy’n rhan o’r cais yn eitemau a brynwyd yn lle eitemau eraill o dan hawliad yswiriant.
  7. Rhaid i unrhyw gyhoeddusrwydd a roddir i’r prosiect gyfeirio at y rhan a chwaraewyd gan yr Undeb Ewropeaidd a hefyd gan Lywodraeth Cymru wrth ei gyllido.
  8. Mae’n rhaid cadw cofnodion ynghylch gweithgaredd y busnes a’r buddsoddiad, gan gynnwys yr holl anfonebau gwreiddiol a dogfennau eraill perthnasol am chwe mlynedd wedi’r taliad olaf o gymorth ariannol i chi yn gysylltiedig â’r buddsoddiad.
  9. Rhaid ichi ganiatáu i gynrychiolwyr Llywodraeth Cymru, Archwilydd Cyffredinol Cymru, y Comisiwn Archwilio a Llys Archwilwyr Ewrop arolygu’r prosiect. Os gofynnir, rhaid i chi roi gwybodaeth iddynt a/neu adael iddynt weld y dogfennau gwreiddiol sy'n ymwneud â’r buddsoddiad.
  10. Mae’r wybodaeth a ddarperir yn y cais ac unrhyw ddogfennau ategol yn destun gofynion Cod Ymarfer Llywodraeth Cymru ar Ganiatáu i'r Cyhoedd Weld Gwybodaeth, Deddf Rhyddid Gwybodaeth 2000 a Rheoliadau Gwybodaeth Amgylcheddol 2004.
  11. Os byddwch yn llwyddiannus, dylech fod yn ymwybodol bod Llywodraeth Cymru a’r Comisiwn Ewropeaidd yn cadw’r hawl i gyhoeddi enw eich busnes neu’ch cwmni, swm y grant a ddyfarnwyd ichi a chrynodeb o’ch prosiect.
  12. Mae'r wybodaeth a ddarperir yn y cais ac unrhyw ddogfennaeth ategol yn ddarostyngedig i'r Hysbysiad Preifatrwydd sydd ar gael yng Nghronfa Forwrol a Physgodfeydd Ewrop (EMFF): hysbysiad preifatrwydd. Mae’r Hysbysiad Preifatrwydd yn esbonio’r ffordd y bydd Llywodraeth Cymru yn prosesu ac yn defnyddio’ch data personol a’ch hawliau o dan y Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data (GDPR).

2. Diwygiadau i'r contract hwn

  1. Ni fydd unrhyw ddiwygiad neu amrywiad i delerau ac amodau’r cynnig grant fel y’u nodir yn y llythyr hwn neu yn yr atodiadau iddo, yn cael effaith oni fydd wedi cael ei gadarnhau'n ysgrifenedig gan roddwr y grant.
  2. Mae rhoddwr y grant yn cadw’r hawl i ddiwygio telerau ac amodau’r cynnig grant fel y’u nodir yn y contract drwy roi rhybudd ysgrifenedig ichi.

3. Newidiadau i'r prosiect

  1. Os gwneir unrhyw newid i’r prosiect, mae’n rhaid i roddwr y grant gydsynio yn ysgrifenedig i’r newid.  Os byddwch yn ein hysbysu bod eich Prosiect wedi newid mewn unrhyw fodd, byddwn yn ysgrifennu atoch i ddweud wrthych sut y byddwn yn ymdrin â'r newidiadau hynny.
  2. Os methir â hysbysu rhoddwr y grant, gall hyn arwain at derfynu’r grant ac efallai y bydd yn ofynnol i chi ad-dalu rhan neu’r cyfan o unrhyw grant a dalwyd.  Ni thelir unrhyw grant mewn perthynas ag unrhyw newidiadau i’r prosiect hyd nes bydd y newidiadau hynny wedi cael eu cymeradwyo gan roddwr y grant.
  3. Mae’n ofynnol i’r ymgeisydd hysbysu rhoddwr y grant cyn gynted ag y bo modd os bydd prosiect yn cael ei addasu’n sylweddol cyn pen 5 mlynedd i Ddyddiad Cwblhau'r Prosiect a bod yr addasiad hwnnw:
    • yn effeithio ar ei natur neu ar yr amodau ar gyfer ei gyflawni, neu yn rhoi mantais ormodol i gwmni neu gorff cyhoeddus
    • yn digwydd oherwydd newid yn natur perchnogaeth rhyw eitem o’r seilwaith neu oherwydd diweddu neu adleoli gweithgaredd cynhyrchiol

4. Talu grant

  1. Bydd y grant yn cael ei dalu yn unol â'r telerau ac amodau
  2. Rhaid ichi brynu'r holl eitemau sydd ar eich contract a'u hawlio trwy'ch cyfrif RPW ar-lein o fewn 120 o ddyddiau calendr ar ôl dyddiad cynnig y contract ichi.
  3. Dim ond pan fydd Llywodraeth Cymru yn fodlon bod y gwariant perthnasol wedi’i wneud fydd hawliadau’n cael eu talu. Bydd taliadau’n cael eu gwneud drwy drosglwyddiad electronig i’ch cyfrif banc 
  4. Heb leihau effaith unrhyw ddarpariaeth arall yn y Telerau a’r Amodau hyn neu’r Contract, caiff rhoddwr y grant gadw unrhyw un neu bob un o daliadau’r grant yn ôl a/neu ei gwneud yn ofynnol i'r cyfan o’r grant, neu ran ohono, gael ei ad-dalu os bydd o’r farn na fyddwch wedi cydymffurfio gyda:
    • unrhyw un o'r telerau ac amodau
    • unrhyw un neu rai o rwymedigaethau’r Gymuned Ewropeaidd sy'n berthnasol i chi neu i’r Prosiect 
    • os ydych wedi methu sicrhau mesurau digonol i ymchwilio i unrhyw afreoleidd-dra y rhoddwyd gwybod amdano a’i ddatrys
  5. Os bydd gordaliad ar y grant, mae’n rhaid i’r swm hwnnw gael ei ad-dalu i roddwr y grant pan ofynnwn ni amdano, neu pan fyddwch chi’n sylweddoli bod gordaliad wedi digwydd, pa un bynnag sy’n digwydd gyntaf.
  6. Bydd rhoddwr y grant yn gwneud pob ymdrech i dalu hawliadau yn brydlon ond nid yw’n derbyn unrhyw atebolrwydd am golledion a fydd i’w priodoli i oedi wrth dalu hawliadau nac am golledion a fydd yn ganlyniad i'r ffaith i'r grant gael ei atal, ei leihau neu ei ddileu.

5. Cyfrifyddu a chadw cofnodion

  1. Mae'n ofynnol i'r ymgeisydd gydymffurfio ag Erthygl 125 (4) (b) o Reoliad 1303/2013 y CE sy'n ei gwneud yn ofynnol i'r ymgeisydd gynnal naill ai system gyfrifo ar wahân neu god cyfrifyddu digonol ar gyfer yr holl drafodion sy'n ymwneud â'r gweithrediad.
  2. Rhaid i'r cais sicrhau bod yr holl ddogfennau ategol sy'n ymwneud â gweithgareddau a gwariant a gefnogir gan y grant, ar gael i ni, y Comisiwn Ewropeaidd a Llys Archwilwyr Ewrop.  Rhaid i’r ymgeisydd sicrhau fod yr holl ddogfennau ategol, gan gynnwys dogfennau electronig o fewn ystyr rheolau’r gymuned, yn cael eu cadw mewn fformat derbyniol. Mae dogfennau'n cynnwys cofnodion am allbynnau a chanlyniadau
  3. Rhaid i'r ymgeisydd hefyd gydymffurfio â rheoliad 10 o Reoliadau 2016 sy'n nodi gofynion domestig ar gadw dogfennau.  Dylid cadw dogfennau gwreiddiol sy'n ymwneud â gweithredu'r Prosiect a'i ariannu at ddibenion archwilio tan ddiwedd chwe blynedd ar ôl y taliad olaf o gymorth ariannol a wnaed i'r buddiolwr yn unol â Rheoliadau 2016 sy'n ymwneud â phrosiect a gymeradwywyd.

6. Archwilio

  1. Os bydd rhoddwr y grant yn gofyn, mae’n rhaid i ymgeiswyr gyflwyno copïau o’r cyfrifon blynyddol wedi’u harchwilio cyn pen 6 mis ar ôl diwedd eu blwyddyn ariannol.  Rhaid i’r nodiadau i’r cyfrifon restru’r derbyniadau grant yn benodol.
  2. Bydd methu â chyflwyno ffurflen hawlio, ar amser, yn arwain at beidio â thalu grant.

7. Monitro'r prosiect

Bydd cynnydd y prosiect yn cael ei fonitro yn erbyn y targedau yn y Contract.  Bydd yn ofynnol ichi gyflwyno adroddiadau ar y cynnydd yn unol â'r targedau hyn. Fodd bynnag, rhaid ichi gydymffurfio â’r dyddiadau cau y byddwn yn eu gosod pan ofynnir am unrhyw wybodaeth, ar ba ffurf bynnag, am gynnydd ar y Prosiect.

8. Hawliau archwilio a dogfennaeth

  1. Wrth i brosiect gael ei asesu’n barhaus, mae’n bosibl y bernir y bydd angen ymweld â safle’r prosiect i’w arolygu ac i weld beth yw statws y prosiect o’i gymharu â’r wybodaeth a fydd wedi'i rhoi, neu i archwilio cofnodion i’r un perwyl, neu i weld  a oes cymorth ariannol yn daladwy neu'n adenilladwy ai peidio, ac os oes, swm y cymorth hwnnw.
  2. Heb leihau effaith yn y contract hwn, mae gan roddwr y grant, Llywodraeth Cymru, Archwilydd Cyffredinol Cymru, y Comisiwn Archwilio, y Swyddfa Archwilio Genedlaethol, y Comisiwn Ewropeaidd a Llys Archwilwyr Ewrop neu eu cynrychiolwyr, yr hawliau a ganlyn:

    • hawl i arolygu’r prosiect a'i gwneud yn ofynnol i'r cyfryw wybodaeth bellach am y prosiect yn gael ei chyflwyno iddynt fel y gwelant yn dda;
    • hawl i gael y dogfennau gwreiddiol sy’n gysylltiedig â'r prosiect, gan gynnwys y cyfrifon gwreiddiol os gwneir cais i’r perwyl hwnnw.
  3. Mae’n rhaid i chi gadw cofnodion llawn ar ffurf y cytunir arni gyda rhoddwr y prosiect er mwyn darparu trywydd archwilio digonol.  Rhaid cadw dogfennau gwreiddiol sy'n ymwneud â gweithredu'r prosiect hwn a'i ariannu am o leiaf chwe blynedd ar ôl y dyddiad talu terfynol i chi mewn perthynas â'r prosiect hwn.
  4. Mae’n rhaid i chi ganiatáu i swyddogion Llywodraeth Cymru a’r Comisiwn Ewropeaidd, neu eu cynrychiolwyr, arolygu’r prosiect ar unrhyw adeg rhesymol o fewn y cyfnod hwnnw o bum mlynedd 

9. Atal a/neu ad-dalu grant

  1. Rhaid i roddwr y grant gadw grant yn ôl a/neu, os bydd taliad wedi cael ei wneud, bydd yn rhaid i’r ymgeisydd ad-dalu’r grant yn llawn neu'n rhannol os gwneir cais i'r perwyl hwnnw os:
    • bydd gwiriad mewnol/domestig gan roddwr y grant, Llywodraeth Cymru, Archwilydd Cyffredinol Cymru, y Swyddfa Archwilio Genedlaethol, archwilwyr a benodwyd gan y Comisiwn Archwilio, y Comisiwn Ewropeaidd neu’r Llys Archwilwyr yn canfod amgylchiadau lle y bydd yn briodol dad-ymrwymo'r grant yn llawn neu'n rhannol neu os bydd y Comisiwn mewn rhyw fodd arall yn ei gwneud yn ofynnol i'r grant gael ei gadw yn ôl, ei leihau, ei ganslo neu ei adennill
    • bydd rhoddwr y grant a/neu Lywodraeth Cymru yn ystyried bod y cymorth yn torri rheolau Cymorth Gwladwriaethol y Gymuned Ewropeaidd neu os bydd Awdurdodau’r Gymuned Ewropeaidd o’r farn na ddylid fod wedi talu unrhyw grant a dalwyd; neu os bydd penderfyniad yn Llys Cyfiawnder Ewrop yn golygu fod yn rhaid atal, lleihau, canslo neu adennill taliad
    • cafodd grant ei ordalu
    • na ddefnyddir y grant at ddibenion y Prosiect
    • bydd ffactor y cyfrifwyd y grant gwreiddiol ar ei sail wedi newid
    • oes gan roddwr y grant sail resymol i gredu bod dyfodol y Prosiect mewn perygl
    • ceir bod gwybodaeth a ddarparwyd yn y cais am grant neu mewn gohebiaeth ar ôl hynny neu mewn gohebiaeth i gefnogi’r cais, yn anghywir, yn gamarweiniol neu’n anghyflawn
    • bod cynnydd anfoddhaol tuag at gwblhau’r Dibenion, gan gynnwys bodloni’r targedau

10. Cam-hawlio a chosbau

Mae'r ymgeisydd yn gyfrifol am gyflwyno hawliadau cywir; mae ar gyfer gwariant wedi'i dalu (mae'r arian wedi mynd o'ch cyfrif banc); mae yr holl eitemau a chostau yn gymwys ac mae’r hawliad ar amser.

11. Terfynu

  1. Mae'r Rhoddwr Grant yn cadw'r hawl i derfynu'r cytundeb hwn ar unrhyw adeg ar ôl rhoi pedwar ar ddeg (14) diwrnod gwaith o rybudd ysgrifenedig i'r ymgeisydd.  Pan roddir rhybudd, bydd y cytundeb yn cael ei derfynu wedi i gyfnod y rhybudd ddod i ben.
  2. Pan fo unrhyw gymorth ariannol wedi ei wneud, gellir, drwy wneud cais i'r perwyl hwnnw, adennill swm sy’n cyfateb i’r cyfan o’r taliad hwnnw neu unrhyw ran ohono:
    • os gwrthodir rhoi mynediad i safle’r prosiect neu i unrhyw gofnodion i swyddogion a awdurdodwyd gan roddwr y grant neu i'r personau y cyfeirir atynt ym mharagraff 8.2
    • os canfyddir bod unrhyw wybodaeth a ddarparwyd gan yr ymgeisydd a/neu ei gynrychiolydd yn anwir neu’n gamarweiniol mewn rhyw ffordd berthnasol;
    • os bydd yr ymgeisydd a/neu ei gynrychiolydd yn fwriadol neu drwy esgeulustod yn gyfrifol am afreoleidd-dra sylweddol wrth gyflawni’r cytundeb a thrwy dwyll, llygredd neu unrhyw weithred neu hepgoriad anghyfreithlon arall o eiddo’r ymgeisydd, wedi peri i Lywodraeth Cymru a/neu yr Undeb Ewropeaidd ddioddef colled ariannol
    • os bydd yr ymgeisydd a/neu ei gynrychiolydd wedi methu, o fewn y cyfnod a bennwyd gan roddwr y grant, â darparu unrhyw wybodaeth y bydd rhoddwr y grant wedi gofyn amdani
    • bu newid sylweddol yn natur, graddfa, costau neu amseriad y prosiect;
    • os bydd gan roddwr y grant sail resymol i gredu na fu neu nad yw y prosiect yn cael ei gyflawni’n briodol o ran bodloni amcanion y prosiect yn unol â’r hyn a nodwyd yn y ffurflen gais
    • lle bo oedi afresymol wedi digwydd neu yn digwydd gyda’r prosiect neu lle bo’n annhebygol y bydd yn cael ei gwblhau erbyn y dyddiad cwblhau a nodwyd yn y Contract.
  3. os bydd gwiriad domestig gan roddwr y grant, Archwilydd Cyffredinol Cymru, y Swyddfa Archwilio Genedlaethol, archwilwyr a benodwyd gan y Comisiwn Archwilio, y Comisiwn Ewropeaidd neu’r Llys Archwilwyr yn canfod amgylchiadau lle y bo'n briodol dad-ymrwymo'r grant llawn neu ran ohono neu os bydd y Comisiwn mewn rhyw fodd arall yn ei gwneud yn ofynnol i'r cymorth o Gronfa Amaethyddiaeth Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig gael ei gadw'n ôl, ei leihau, ei ganslo neu ei adennill.
  4. os bydd rhoddwr y grant yn ystyried bod y cymorth yn torri rheolau Cymorth Gwladwriaethol y Gymuned Ewropeaidd neu os bydd Awdurdodau’r Gymuned Ewropeaidd o’r farn na ddylid fod wedi talu unrhyw grant a dalwyd; neu os bydd penderfyniad yn Llys Cyfiawnder Ewrop yn golygu bod yn rhaid cadw taliad yn ôl, ei leihau, ei ganslo neu ei adennill.
  5. yn ystod ei oes economaidd, bod y Prosiect yn newid yn sylweddol, a ddiffinnir fel cael ei ddefnyddio at ddibenion heblaw y rhai a enwir yn y cais neu os bydd ei berchennog yn newid.  Yr oes economaidd yw’r cyfnod hyd at daliad olaf y grant neu gyflawni’r targedau olaf o blith y rhai a enwir yn y Proffil Cyflawni neu 5 mlynedd o ddyddiad gorffen y prosiect pa un bynnag sydd hwyraf;
  6. os bydd unrhyw un neu rai o’r pethau isod yn digwydd o fewn y cyfnod sy’n dechrau ar ddyddiad y contract hwn ac yn ystod oes economaidd y Prosiect, a rhaid rhoi gwybod i roddwr y grant amdanynt cyn gynted ag y bo modd;
  7. bod yr ymgeisydd yn peidio â bod yn is-gwmni i unrhyw gwmni y mae’n is-gwmni iddo ar ddyddiad y contract hwn neu fod yr ymgeisydd yn mynd yn is-gwmni i unrhyw gwmni nad yw’n is-gwmni iddo ar ddyddiad y contract hwn.   Dehonglir y gair “is-gwmni” yn unol â’r diffiniad yn Adran 736 o Ddeddf Cwmnïau 1985 fel y’i hamnewidiwyd gan Adran 1159 o Ddeddf Cwmnïau 2006;
  8. bod yr ymgeisydd yn destun cynnig ar gyfer trefniant gwirfoddol neu y dygwyd deiseb ar gyfer Gorchymyn Gweinyddu neu ddeiseb ar gyfer Gorchymyn Dirwyn i Ben yn ei erbyn neu ei fod yn gwneud penderfyniad i ddirwyn i ben neu yn gwneud unrhyw gyfansoddiad, trefniant, trawsgludiad neu aseiniad er budd ei gredydwyr neu yn bwriadu gwneud hynny, neu os penodir derbynnydd neu unrhyw berson arall mewn perthynas â hyn neu unrhyw eiddo y mae’n berchen arno.
  9. Pan derfynir y cytundeb, rhaid i’r ymgeisydd:
    • ad-dalu cyn pen 28 diwrnod gwaith y cyfan neu ran o unrhyw grant a dalwyd nad yw ar ddyddiad terfynu’r cytundeb wedi cael ei wario at ddibenion cymeradwy
    • cydymffurfio â darpariaethau unrhyw alwad gan roddwr y grant i’w ad-dalu

12. Llog

Os penderfynir adennill grant, mae llog yn daladwy ar y swm hwnnw ar gyfradd o un y cant uwchlaw cyfradd sylfaenol Banc Lloegr mewn perthynas â phob diwrnod o'r cyfnod a fydd yn dechrau ar y diwrnod pan fydd y cymorth ariannol wedi ei roi tan y diwrnod yr adenillir y swm.

13. Ymchwil a Gwerthuso

  1. Er mwyn mesur ei effeithiolrwydd, mae’n rhaid i bob cymorth a roddir gan gronfeydd Ewrop fod yn destun ymchwil a gwerthuso.  Efallai y bydd Llywodraeth Cymru, neu gontractwyr annibynnol yn gweithredu ar ran Llywodraeth Cymru, yn gofyn i chi gydweithredu â hwy er mwyn cynnal ymchwil o’r fath. Disgwylir i chi gydymffurfio â phob cais rhesymol o’r fath. Yn benodol, mae’n rhaid i chi roi i roddwr y grant, Llywodraeth Cymru (neu’r contractwr sy’n cynnal yr astudiaeth) fanylion sylfaenol am y prosiect os byddant yn gofyn.
  2. Bydd yr holl wybodaeth a ddarperir yn cael ei thrin yn hollol gyfrinachol; ni fydd modd adnabod prosiectau na buddiolwyr unigol yng nghanfyddiadau astudiaethau ymchwil a gwerthuso ac ni fydd prosiectau unigol yn cael eu cymharu.

14. Rhestr asedau

Mae’n rhaid i’r ymgeisydd sefydlu a chynnal rhestr o’r holl asedau sefydlog sy’n cael eu prynu, eu hadeiladu neu eu gwella yn llwyr neu yn rhannol drwy ddefnyddio’r grant.  Diffinnir ased fel eitem nas gorffennir ei defnyddio cyn pen 12 mis ac na fwriedir ei gwerthu cyn diwedd ei hoes fuddiol. Gellir gadael allan asedau sy’n werth llai na £10,000.

Dylai’r rhestr ddangos:

  • y dyddiad prynu
  • disgrifiad o’r ased
  • y pris a dalwyd net heb TAW adferadwy
  • swm a dalwyd o’r grant
  • lleoliad gweithredoedd yr eiddo
  • rhifau cyfres neu adnabod
  • lleoliad yr ased
  • y dyddiad gwaredu
  • enillion y gwerthiant heb gynnwys TAW

Ni chaniateir gwaredu, trosglwyddo na gwastraffu unrhyw offer a/neu ased a brynir gyda chymorth y grant cyn pen 5 mlynedd i Ddyddiad Cwblhau'r Contract heb i roddwr y grant roi caniatâd ysgrifenedig ymlaen llaw.

15. Gofynion yr UE

Dyma grynodeb o reoliadau, rheolau a chyfarwyddebau’r CE sy'n berthnasol i’r grant hwn.  Mae'n bosibl y cânt eu diwygio o bryd i’w gilydd.  Dylai’r ymgeisydd geisio ei gymorth cyfreithiol ei hun mewn perthynas â hwy.

Cronfa’r Môr a Physgodfeydd Ewrop

Rheoliad (UE) Rhif 1303/2013 Senedd Ewrop a'r Cyngor sy'n gosod darpariaethau cyffredin ar Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop, Cronfa Gymdeithasol Ewrop, y Gronfa Cydlyniant, Cronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig a Chronfa Forwrol a Physgodfeydd Ewrop

Rheoliad (UE) Rhif 1379/2013 Senedd Ewrop a'r Cyngor ar drefniadaeth gyffredin ar gyfer marchnadoedd mewn cynhyrchion pysgodfeydd a dyframaeth.

Rheoliad (EU) Rhif 1380/2013 Senedd Ewrop a'r Cyngor ar y Polisi Pysgodfeydd Cyffredin.

Rheoliad (EU) Rhif 508/2014 Senedd Ewrop a'r Cyngor ar Gronfa'r Môr a Physgodfeydd Ewrop.

Rheoliad Gweithredu y Comisiwn (UE) Rhif 772/2014 sy'n gosod y rheolau ar ddwyster cymorth cyhoeddus i'w ddefnyddio ar gyfer cyfanswm gwariant cymwys gweithrediadau penodol a ariennir o dan y Gronfa Forwrol a Physgodfeydd Ewrop

Rheoliad dirprwyedig y Comisiwn (UE) 2015/288 Senedd Ewrop a'r Cyngor ar Gronfa Forwrol a Physgodfeydd Ewrop o ran y cyfnod o amser a'r dyddiadau ar gyfer ceisiadau annerbyniol (Diwygiwyd gan Reoliad Dirprwyedig y Comisiwn (UE) 2015/2252)

Rheoliad Dirprwyedig y Comisiwn (EU) 2015/531 sy'n ategu Rheoliad (UE) Rhif  508/2014 Senedd Ewrop a'r Cyngor drwy nodi'r costau sy'n gymwys i gael cymorth o Gronfa'r Môr a Physgodfeydd Ewrop er mwyn gwella hylendid, iechyd, diogelwch ac amodau gweithio pysgotwyr, gwarchod ac adfer bioamrywiaeth ac ecosystemau morol, lliniaru newid hinsawdd a gwneud cychod pysgota yn fwy effeithlon o ran ynni

Rheoliad Dirprwyedig y Comisiwn (EU) 2015/85 Senedd Ewrop a'r Cyngor sy'n ymwneud â’r achosion o beidio â chydymffurfio ac â'r achosion difrifol o beidio â chydymffurfio â rheolau'r Polisi Pysgodfeydd Cyffredin a all arwain at ymyrryd â therfyn amser ar gyfer talu neu at atal taliadau o dan Gronfa'r Môr a Physgodfeydd Ewrop

Rheoliad Dirprwyedig y Comisiwn (UE) Rhif 2015/1930 Senedd Ewrop a'r Cyngor ar Gronfa Forwrol a Physgodfeydd Ewrop o ran y meini prawf ar gyfer sefydlu lefel y cywiriadau ariannol ac ar gyfer cymhwyso cywiriadau ariannol cyfradd unffurf, a diwygio Rheoliad y Comisiwn (CE) Rhif 665/2008

Rheoliad Gweithredu gan y Comisiwn (EU) Rhif 1243/2014 sy'n pennu rheolau yn unol â Rheoliad (EU) Rhif 508/2014 Senedd Ewrop a'r Cyngor ar Gronfa'r Môr a Physgodfeydd Ewrop sy’n ymwneud â’r wybodaeth sydd i'w hanfon gan Aelod-wladwriaethau, yn ogystal ag ar anghenion o ran data a synergedd rhwng ffynonellau data posibl

2014/464/EU: Penderfyniad Gweithredu gan y Comisiwn 15/2014/EU sy'n nodi blaenoriaethau'r Undeb ar gyfer polisi gorfodi a rheoli yn fframwaith Cronfa’r Môr a Physgodfeydd Ewrop

Rheoliad y Comisiwn (UE) Rhif 717/2014 ar gymhwyso Erthyglau 107 a 108 o'r Cytuniad ar Weithrediad yr Undeb Ewropeaidd i gymorth de minimis yn y sector pysgodfeydd a dyframaeth

Argymhelliad y Comisiwn 2003/361/EC dyddiedig 6 Mai 2003 ynghylch y diffiniad o ficrofusnesau, busnesau bach a chanolig

16. Rheolau Cymorth Gwladwriaethol y Gymuned Ewropeaidd

Egwyddorion

  • Mae gan y Comisiwn Ewropeaidd bwerau sylweddol i fonitro, i reoli ac i gyfyngu ar y mathau o gymorth ac ar lefelau’r cymorth y bydd yr holl Aelod-wladwriaethau’n ei roi i’w diwydiannau. Mae egwyddorion Cymorth Gwladwriaethol i’w gweld yn Erthyglau 107,108 a 109 o'r Cytuniad “Treaty of the Functioning of the European Union”(TFEU).  Mae canllawiau manwl ar reolau Cymorth Gwladwriaethol i’w gweld yn “European Community State Aids: Guidance for all Departments and Agencies” a gyhoeddwyd gan yr Adran Masnach a Diwydiant ym mis Mawrth 2001 ac yn y gwahanol fframweithiau a chanllawiau a gyhoeddwyd gan y Comisiwn ar gyfer cymhwyso’r rheolau. Mae’n rhaid i’r Comisiwn gael ei hysbysu am bob Cymorth Gwladwriaethol (heblaw cymorth a ddaw o dan ddarpariaethau de minimis neu eithriad bloc – gweler isod) ac mae’n rhaid i’r Comisiwn ei gymeradwyo cyn iddo gael ei roi ar waith neu fel arall mae’n anghyfreithlon.
     
  • Mae’n ofynnol i ymgeiswyr gadw at unrhyw gyfyngiadau sy’n berthnasol i Gymorth Gwladwriaethol. Ni thelir unrhyw grant ar gyfer y prosiect nes i roddwr y grant gael ar ddeall fod y Comisiwn wedi cymeradwyo’r prosiect o dan y drefn ar gyfer hysbysu ynghylch cymorth gwladwriaethol yn unol ag Erthygl 108(3) y TFEU, neu hyd nes bydd rhoddwr y grant wedi dod i’r farn nad oes angen hysbysiad o’r fath. Bydd y sawl sy’n derbyn cymorth anghyfreithlon mewn perygl o orfod ad-dalu’r cymorth ynghyd â llog os canfyddir bod y prosiect wedi torri rheolau Cymorth Gwladwriaethol ac mae perygl hefyd y bydd trydydd partïon yn mynd i gyfraith i gael iawndal. Os oes gennych unrhyw amheuon, cysylltwch â Llywodraeth Cymru.

Hysbysiad

  • Os bydd Prosiect yn defnyddio gwariant cyhoeddus (gan gynnwys cyllid datblygu gwledig) yn uniongyrchol neu’n anuniongyrchol er mwyn darparu buddion â chymhorthdal i’r sector preifat, e.e. grantiau i gwmnïau ar gyfer buddsoddi, hyfforddi a gwasanaethau ymgynghori i fusnesau am gost is, bydd yn rhaid i’r cymorth a ddarperir i’r prosiect gydymffurfio â rheolau Cymorth Gwladwriaethol fel arfer
     
  • Dyfernir y grant hwn yn unol â’r mesurau Cymorth Gwladwriaethol a ddisgrifir yn y nodyn perthnasol yn Nodiadau Cyfarwyddyd y Cynllun.
     

17. Gofynion o ran cyhoeddusrwydd

Datganiadau i’r Wasg a chyhoeddusrwydd ynglŷn â gweithgareddau’r prosiect

  1. Yn unol ag Erthygl 115 ac Atodiad XII, Rheoliad y Cyngor 1303/2013, mae’n rhaid i’r ymgeisydd pan fydd yn ymgymryd â chyhoeddusrwydd ar gyfer y prosiect hwn, gydnabod y cymorth y mae’r Undeb Ewropeaidd yn ei roi drwy Weinidogion Cymru.  Dylai cyhoeddusrwydd o’r fath gyfeirio at Lywodraeth Cymru.
  2. At y dibenion hyn, bydd cyhoeddusrwydd yn cynnwys; cyhoeddiadau ffurfiol ac anffurfiol; llyfrynnau, pamffledi, taflenni a phob deunydd printiedig arall; hysbysebion recriwtio ar gyfer swyddi; erthyglau yn y wasg ac mewn newyddiaduron a datganiadau i’r wasg, cyfweliadau ar y cyfryngau (teledu a radio) a digwyddiadau lansio ac agoriadau swyddogol.
  3. Os penderfynwch dderbyn y cynnig hwn, fel y mae wedi'i gynnwys yn y contract hwn, mae’n bosibl y bydd Tîm Cyfathrebu Llywodraeth Cymru yn cysylltu â chi i drafod y gofyniad hwn o ran cyhoeddusrwydd.  Os penderfynwch roi cyhoeddusrwydd i’ch cynllun cyn i aelod o’r tîm cyfathrebu gael cyfle i gysylltu â chi, a fyddwch cystal â chysylltu â Ruralnetwork@gov.wales yn gyntaf er mwyn trafod eich bwriadau.
  4. At hynny, mae’n rhaid i chi roi cyhoeddusrwydd i’r ffaith fod yr Undeb Ewropeaidd, trwy Weinidogion Cymru, yn talu’n rhannol am eich prosiect.  Dylai’r cyhoeddusrwydd hwn sicrhau bod buddiolwyr yn gwbl ymwybodol fod y prosiect y byddant yn cyfranogi ynddo wedi cael ei ariannu’n rhannol gan yr Undeb Ewropeaidd, a’ch bod yn codi ymwybyddiaeth o nawdd yr Undeb Ewropeaidd ymhlith darpar fuddiolwyr a’r cyhoedd.
  5. Rhaid i hyn gynnwys o leiaf logo Llywodraeth Cymru; logo’r Undeb Ewropeaidd a’r geiriad a ganlyn:
    • Cronfeydd Strwythurol a Buddsoddi Ewropeaidd
    • European Structural and Investment Funds

18. Cyhoeddi gwybodaeth am grantiau a ddyfernir

Yn unol â Rheoliad y Cyngor (CE) Rhif 1303/2013 a Rheoliad y Cyngor (CE) Rhif 508/2014, mae'n ofynnol i Lywodraeth Cymru gyhoeddi, o leiaf bob chwe mis, fanylion am y buddiolwyr sy'n derbyn taliadau EMFF.  Dyma'r manylion a gyhoeddir:

  • enw cyntaf a chyfenw’r buddiolwr neu enw’r cwmni, y bartneriaeth neu’r sefydliad sy'n fuddiolwr
  • rhif adnabod cofrestr fflyd cymunedol (CFR) (lle mae'r prosiect wedi'i gysylltu â llong bysgota)
  • enw'r prosiect a chrynodeb o'r prosiect
  • dyddiad cychwyn a dyddiad gorffen y prosiect
  • cyfanswm y gwariant cymwys a chyfraniad yr EMFF
  • cod Post y prosiect a'r wlad lle mae'r prosiect wedi'i leoli
  • enw Blaenoriaeth yr Undeb
  • dyddiad y diweddariad diwethaf o'r rhestr o brosiectau

Cyhoeddir y wybodaeth hon ar Cronfa’r Môr a Physgodfeydd Ewrop: adroddiad tryloywder.

Bydd pob cais a wneir i Lywodraeth Cymru ddatgelu gwybodaeth (gan gynnwys gwybodaeth sy'n berthnasol i’r cais hwn am grant neu’r dyfarniad hwn) yn cael ei ystyried yn unol â Chod Ymarfer Llywodraeth Cymru ar Ganiatáu i'r Cyhoedd Weld Gwybodaeth (‘y Cod’) ac â rhwymedigaethau statudol Llywodraeth Cymru o dan Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth 2000, Rheoliadau Gwybodaeth Amgylcheddol 2004 a'r Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data 2018.  Mae’r Cod yn adlewyrchu agwedd Llywodraeth Cymru at lywodraeth agored ac yn rhoi arweiniad ar sut y bydd Llywodraeth Cymru yn ymateb i geisiadau am wybodaeth gan aelodau o’r cyhoedd, boed y ceisiadau hynny’n dod o dan y Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth, y Rheoliadau Gwybodaeth Amgylcheddol neu’r Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data 2018.